Newyddion
Archive
Popular Tags
Diemwntau, môr-ladron a cherddoriaeth hyfryd
Mae Cyngerdd Canol Haf yr Ardd Fotaneg Genedlaethol hefyd yn addo dathliad diemwnt eleni.
Bydd Symphonica Tywi sy’n cynnwys 40 o aelodau yn chwarae o 7.30 tan hwyr yn y Tŷ Gwydr Mawr ddydd Sadwrn Mehefin 23 a bydd gwledd gerddorol eleni sy’n dwyn y teitl ‘Happy and Glorious’ yn arddangos 60 mlynedd o gerddoriaeth radio, teledu a ffilm.
Dywedodd Mike Cotham: “Mae dathlu 60 mlynedd o gerddoriaeth gyda chyngerdd blynyddol yn addas iawn eleni. Bydd yna rywbeth i bawb ynghyd â themâu poblogaidd sy’n amrywio o The Archers i Pirates Of The Caribbean.”
Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad yn £10 ac mae’n cynnwys mynediad i’r Ardd ar y dydd. Dywedodd y Pennaeth Marchnata, David Hardy: “Mae o hyd yn ddigwyddiad gwych. Mae pobl yn dod â’u picnics ac yn treulio’r dydd yma. A dweud y gwir, does dim byd gwell nag eistedd ymhlith y planhigion Canoldirol ar fachlud haul yn gwrando ar y gerddorfa wych hon yn chwarae cerddoriaeth hyfryd.”
I brynu eich tocyn, ffoniwch 01558 667149
Am fwy o wybodaeth am hwn neu am ddigwyddiadau eraill yr Ardd, rhowch glic ar www.gardenofwales.org.uk, e-bostiwch info@gardenofwales.or.uk neu ffoniwch 01558 667149.







