Newyddion
Archive
Popular Tags
Gwledd y Pasg yn yr Ardd
Mae hud a lledrith anifeiliaid, cerddoriaeth, hen gerbydau, a pherfformiad o Under Milk Wood yn rhannu’r un rhaglen yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn ystod y Pasg eleni.
Mae’r mirgathod yn ôl, ac mae’r Cwac Pac hefyd yn dychwelyd i lonni ymwelwyr y gwyliau yng ngardd orau Cymru.
Bydd myfyrwyr Coleg Sir Gâr yn perfformio ‘drama i leisiau’ Dylan Thomas ar Ddydd Sadwrn y Pasg, ac mae Clwb Hen Gerbydau Dyffryn Tywi yn yr Ardd ar Sul y Pasg yn crancio’u ceir ar ddechrau eu tymor.
Byddan nhw’n dangos amrywiaeth eang o hen gerbydau, peiriannau stêm, tractorau, offer garddio, beiciau a modelau – a bydd rhai o’u haelodau wedi’u gwisgo mewn gwisg o gyfnod priodol.
Bydd Clwb Cerbydau Dyfed yn helpu dathlu Llun y Pasg trwy gynnal Sioe Foned y Pasg mewn cerbydau a thrapiau wedi’u tynnu gan geffylau.
Mae David Hardy yn Bennaeth ar Ddigwyddiadau yn yr Ardd. Meddai: “Mae gennym raglen sy’n tynnu dŵr o ddannedd dros benwythnos Gŵyl y Banc a thrwy gydol gwyliau’r Pasg. Byddwn ni hefyd yn rhoi tro ar ein cynnig a elwir yn ‘Archwilwyr yr Ardd’, pan y gall ein hymwelwyr ifainc godi eu gwarbaciau, dewis o amrywiaeth o weithgareddau, a bwrw ymaith i fwynhau eu hunain yn yr Ardd.”
Bydd hefyd gweithgareddau crefft yn yr Ardd, arddangosiadau o durnio pren ‘Sut i Wneud ŵy Pasg’, cywiau’r Pasg a gweithdai ‘Sut i Gadw Cywion’, a Phenwythnos Mawr Dweud Stori’r Ardd.
Am fanylion llawn am ddigwyddiadau’r Pasg yn yr Ardd, ewch i www.gardenofwales.org.uk








It would be nice to know the performance times for Under MIlk Wood. It would be a shame to miss the start.
Thanks for asking Nigel. There’s one performance in the Stable Block Courtyard at 1.30pm (if it’s too wet or too cold, it will be in the nearby Marquee). Hope you can make it but do wrap up warm!!
Unrhyw beth ymlaen ar ddydd Gwener y Groglith / Anything events on Good Friday?
Diolch!
Diolch Anwen.
On Good Friday we’ve got lots of music, magic and dancing plus an egg-citing woodturning turn by Les Bryan.
It might be a bit chilly but the Garden looks lovely in the sunshine.
Hi> Can you tell me what is going on at the gardens tomorrow, please? Diolch
Hi Dawn,
Music , dancing, magic, carriage rides, Meirion Owen’s Quack Pack from about 12 – 3 each day PLUS an Easter Bunny Trail around the Garden for the young’uns, with a special Easter egg prize and an egg-citing woodturning turn by Les Bryan. Pick up your trail leaflet in the Gatehouse.
Regards
Colin
Hello
what time will the meerkats be there on easter Monday.
thanks
Many apologies, but the meerkats are on next weekend, not easter Monday.
Colin
Hi
doesn’t really make that clear on your website, ive arranged to bring someone to see them aswell, not good at all
What time is the carriages procession please
Yet more apologies for the lack of clarity. The carriage procession is from noon.
Colin