Diwrnod Hwyl i’r Teulu

Diwrnod Hwyl i’r Teulu

Bydd hwyl i’r teulu gyfan Ddydd Sadwrn, Tachwedd 19 yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Bydd Diwrnod Hwyl i’r Teulu yn cynnwys celf a stondinau crefftau, lle gallwch wneud eich addurniadau Nadolig eich hun; paentio wynebau, coginio gyda’r Pumpkin Patch; gweithdy dawns a thwmpath; cornel adrodd storïau a llawer mwy.

Bydd mynediad am ddim i’r Ardd ar gyfer plant (dan 16 oed) ar ddiwrnod y digwyddiad, sydd wedi cael ei drefnu ar y cyd â Menter Cwm Gwendraeth.

Adloniant a gweithgareddau yn dechrau am 10.30am tan 3.30pm.  Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Menter Cwm Gwendraeth ar 01269 871600 neu’r Ardd ar 01558 667149.

Leave a Reply

*