Newyddion
Archive
Popular Tags
Hwyl i’r Teulu
Gall pobl ifanc a phlant fwynhau eu hunain a mynediad AM DDIM i bobl dan 16 oed yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn ystod hanner tymor nesa, gan gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau hwyliog.
Mae cyfle iddynt hau a medi; cymysgu dognau a golchdrwythau; a gwneud pethau hyfryd ar gyfer eich gerdi eu hunain, gyda chymorth y garddwyr, y crefftwyr a’r perlysieuwyr.
Bydd rhywbeth ymlaen o Ddydd Llun hyd Ddydd Gwener (Chwefror 11-15) trwy gydol wythnos hanner tymor – ac mae Diwrnod o Hwyl i’r Teulu ar Ddydd Mercher (Chwef 13) mewn partneriaeth â Menter Cwm Gwendraeth, sy’n cynnwys paentio wynebau, dawnsio, celf, crefftau a helfa drysor.
Mae’r Ardd Fotaneg yn canolbwyntio ar wylio adar ar benwythnos Chwefror 16-17 gyda chymorth arbenigwyr o RSPB Cymru a’r Ymddiriedolaeth Adareg Brydeinig. Bydd dwy daith gerdded y dydd ar Ddydd Sadwrn (16eg) a Dydd Sul (17eg) o amgylch yr Ardd a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las.
Mae mynedfa am ddim i’r Diwrnod o Hwyl i’r Teulu, sy’n rhedeg o 10.30yb i 4.00yp.
Am ragor o wybodaeth am y digwyddiad hwn a digwyddiadau eraill, galwch 01558 667149, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk, neu ewch i www.gardenofwales.org.uk




-1360054968.jpg)



Are there details, times etc for the children activities for half term, particularily the Wed,
What does “your comment is awaiting moderation” mean.. plain language please
Hello Chris
The family activities are from 12-4 but on the Wednesday, they will run from 10.30am – 4pm.
Sorry about the ‘your comment is awaiting moderation’ wording. It’s a default setting from when the website was first set up. We’ll have a think about how to change it!
Bruce
Do parents have to pay entry?
I’m afraid parents do have to pay Kath. It’s £8.50 for adults/ £7 concessions.
Sounds great. We will be coming down today (wed) and look forward to Joining in with the activities.