Newyddion
Archive
Popular Tags
Mae’r Ffair Fwyd yn wledd!
Mae gwiwer ar y fwydlen yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ddiwedd y mis (Ionawr 28-29).
Yr Ŵyl Fwyd yw’r digwyddiad olaf yn rhaglen ‘Ionawr AM DDIM’ yr Ardd ac mae’n debygol o fod yn boblogaidd iawn.
Bydd y cwmni bwyd ‘Taste of the Valleys’ yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn yr Ardd ac yn ogystal â gwiwer, byddant yn cynnig colomen, petrisen, ffesant, hwyaden wyllt, cig carw, cwningen ynghyd â selsig a gamwn a chig moch cartref.
Dywedodd Ruth Askwith o Taste of the Valleys: “Rydyn ni newydd wedi symud i ardal Caerfyrddin ac rydyn ni’n awyddus iawn i gymryd rhan mewn digwyddiadau bwyd lleol. Gwiwer yw un o’n gwerthwyr gorau ar hyn o bryd.”
I’r daflod fwy traddodiadol, bydd cwrw a seidr sydd wedi eu bragu’n lleol; gwin a gynhyrchwyd yng Nghymru; cig eidion gwartheg hirgorn, cig dafad a chig oen; porc; cig eidion gwartheg duon Cymreig; gwledd lysieuol; caws hyfryd Sir Gaerfyrddin; te, catwad, picl, cyffaith Cymreig; bara, cacennau, losin, mêl, bisgedi, brownis a siocledi.
Yn syml, fe fydd yn wledd fawreddog!
Mae’r Ardd ar agor o 10am tan 4.30pm ac mae mynediad i’r Ardd a’r Ffair Fwyd am ddim.
Am fwy o wybodaeth am ddigwyddiadau’r Ardd, ewch at www.gardenofwales.org.uk neu ffoniwch 01558 667149.








Please can you tell me whether you have a separate price for groups. We would be 20-30 in number (OAP’s) – last week in May.
Thank you for your enquiry Euan
For any group of 10 people or more, we provide a £1 discount on the usual adult and concession price.
If your group would like a special guided tour of the whole Garden, we charge £25 per group.
To help us arrange your visit, please ring us at least 2 weeks before your visit on 01558 667148/9
or contact us by email on adurran@gardenofwales.org.uk
Does that answer your question?