Newyddion
Archive
Popular Tags
(English) Food Festival is a proper treat – 12th & 13th May 2012
Mae Gŵyl Fwyd Gorllewin Cymru yn hybu’r bwydydd a’r diodydd lleol gorau ac yn cynnwys arddangosiadau gan gogyddion gorau Cymru ynghyd â sgyrsiau, teithiau cerdded, cerddoriaeth, hud a llawer mwy.
Bydd un o gogyddion gorau Cymru Bryn Williams yn arddangos ei sgiliau yn ystod y ddau ddiwrnod yng nghegin yr Ŵyl, ac ym Mhabell y Cynhyrchwyr Lleol cewch hyd i’r bwydydd a’r diodydd lleol gorau gan fwy na phedwar deg o gynhyrchwyr rhanbarthol.
Bydd y cogyddion teledu Dudley Newbury ac Angela Gray hefyd ar gael i rannu eu cyfrinachau coginiol a bydd Sally Hedger o’r Ardd yn rhoi gair o gyngor ar sut i dyfu bwyd eich hun. Bydd rheolwr fferm yr ystâd Tim Bevan yn cyflawni ei saffari tractor enwog ac yn cyflwyno ei ddefaid a’i wartheg duon Cymreig Lleyn a Llanwennog a fagwyd mewn ffordd organig.
Bydd y Ganolfan Blant unwaith eto yn nodwedd boblogaidd o’r Ŵyl gydag Ysgol Goginio Pumpkin Patch yn cymryd lle blaenllaw yn y Tŷ Gwydr Mawr ynghyd â digwyddiadau eraill sy’n addas i’r teulu megis dylunio ffedogau a gwneud bathodynnau.
Bydd y newyddiadurwraig sydd wedi ennill gwobrau ac awdures chwe llyfr ar faterion bwyd, Joanna Blythman, a brenin y llysiau sydd wedi ennill Sioe Flodau Chelsea un ar ddeg gwaith, Medwyn Williams, yn rhoi cyflwyniadau a bydd yna gyfleoedd arbennig i drafod pynciau llosg y dydd.
Ac wrth gwrs, rhaid cofio’r Cinio Gala poblogaidd nos Sul pan fydd cogyddion yr Ŵyl yn coginio cinio pedair saig. Mae bwydlen Cinio Gala eleni yn dechrau gyda derbyniad arbennig sy’n cynnwys diodydd a chanapés – a baratowyd gan brif gogydd yr Ardd Fotaneg Genedlaethol Nigel Roberts – yn y Tŷ Gwydr Mawr am 6.30pm.
Mae’r Cinio Gala yn dechrau am 7.30pm ym Mhabell Fawr yr Ŵyl gyda’r saig gychwynnol gan Lysgennad Coginio Araf Cymru a chogydd a pherchennog yr ‘Wynnstay’, Machynlleth, Gareth Johns. Bydd yn coginio Terîn brithyll Cymreig gyda phicl ciwcymbr, dresin garlleg gwyllt a salad.
Ian Bennett, cogydd ‘The Welcome to Town on the Gower’ yn Llanrhidian fydd yn darparu’r brif saig. Fe’i hyfforddwyd ym mwyty’r Waterside a redir gan y Brodyr Roux.
Ac yn olaf, bydd Ludovic ‘Ludo’ Dieumegarde o ‘The Coopers’, Castell Newydd Emlyn yn eich tretio gyda phwdin blodau.
Mae’r tocynnau yn costio £45 y pen (byrddau o 10 yn £450) a dylech wisgo’n daclus/smart – dim tei du.
Os hoffech fwy o wybodaeth, ffoniwch yr Ardd ar 01558 667149, e-bostiwch
hello@westwalesfoodfestival.com neu rhowch glic ar www.westwalesfoodfestival.com







How much is the entry fee for adults and concessions please
Full information on Prices can be seen under Visitor Info – Opening Times and Prices – and under Support Us – Membership. Adult price is £8.50, OAPS £7.00
What an outstanding venue for an event of this kind, it shows the versatility of the site. I attended on Saturday and had a great time, it was good to see the gardens so busy, full of people enjoying themselves in the gorgeous sunshine.
An impressive range of excellent foods produced in Wales, we should do more to promote ourselves and the gardens.
Well done the team at Middleton, keep it up!
P.S. . . . can we have some outdoor theatre please!
Glad you enjoyed your visit here Kym.
We’ve got some outdoor theatre planned for the rest of the year.
On the weekend of May 26-27 Chance Encounters Theatre are putting on Pirates, Plague and Plants for Health. This is an all day interactive activity for families who will find out what life was like here 400 years ago.
On Saturday, June 16 at 2pm, we have Quantum Theatre doing Tales of Beatrix Potter outdoors.
But keep your eye on our Events page as we may well have more outdoor theatre coming up.
Visited gardens on Sat of Food festival, have not been to gardens for several years. Gardens were lovely. The food festival was poor,hardly any stalls.The info I had read about it was misleading.
Not worth the entrance fee. Money back please.
I went on the sunday and there were lots of stalls with fabulous food to sample and I bought some gorgeous venison which was locally sourced and very cheap. The highlight of the day was Luke Jugglestruck doing up close magic for our group, he was amazing. Our group are going again tomorrow as we enjoyed it so much!