Gemau a Sbri

Ffaelu â mynd i’r Gemau Olympaidd?   Felly pam na wnewch chi gymryd rhan yng ‘Ngemau’r’ Ardd Fotaneg Genedlaethol yn lle hynny.

O Awst 6 i 10, gwahoddir ymwelwyr i gymryd rhan yng ‘Ngemau Olympaidd’ yr Ardd, a gweld pa mor bell y gallant daflu’r Waywffon Riwbob, faint mor gyflym y gallan nhw redeg yn y Ras Daten a Llwy, a faint o bellter y gallan nhw Daflu Meipen.

Syniad y Swyddog Dehongli, Bruce Langridge, yw Gemau Olympaidd yr Ardd, sy’n edrych ymlaen at yr hyn mae e’n ei alw ‘Y Sioe Orau Ar Wair’.   Meddai:  “Bydd pob digwyddiad yn cymryd lle ar amgylcheddau glaswelltog yr ardd sydd â mur allanol o’i chwmpas, ac fe gynhelir seremonïau cyflwyno ar ein Llwyfan Berfformio sydd newydd ei hagor.”

Mae’r pwyslais ar hwyl, meddai Bruce, ac mae ‘na gynlluniau ar gyfer râs sach dato, taflu welinton, a llawer mwy o gemau sy’n gysylltiedig â garddio.   Meddai Bruce:  “Mae’r garddwyr yma yn awyddus iawn i ni gynnwys chwynnu ar y cyd ac ymgodymu â malwod yn ein gemau, ond mae’n fersiwn ni o ‘LOCOG’ sef pwyllgor Trefnu Llanarthne y Gemau Organig wedi eu gwrthod!”

Mae llawer o bethau’n digwydd trwy gydol gwyliau’r haf yn yr Ardd heblaw am Gemau’r Ardd, gyda mir-gathod yn dychwelyd, hebogyddiaeth, Gŵyl Coed Cymru, pwll-drochi, ‘gwneud eich melin wynt eich hun’  a sesiynau creaduriaid pryfetach.

Am fwy o wybodaeth, ewch i http://www.gardenofwales.org.uk/whats-on/events/17406-2/  neu e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk, neu galwch 01558 667149.

Leave a Reply

*