Blas ar Lydaw yn yr Ardd

Blas ar Lydaw yn yr Ardd

Bydd band Llydaweg yn chwarae cerddoriaeth Geltaidd ac yn dawnsio i ddathlu carreg
filltir ‘efeillio’ tirnod lleol.

Bydd yr ensemble o’r enw Baga Bro Even  sy’n hanu o Lesneven yn yr Ardd Fotaneg
Genedlaethol ddydd Gwener Mai 25 i ddathlu 30 mlynedd o berthynas rhwng
Caerfyrddin a’r dref hon yn Llydaw.

Bydd criw o dua 70 yn ymweld â’r Ardd a bydd y band a’r grŵp dawnsio sy’n cynnwys 30
o aelodau yn perfformio – yn eu gwisg Lydaweg draddodiadol ynghyd â
phenwisgoedd – o dua 10.30am.

Dywedodd Elaine Jones, un o gydlynwyr yr ymweliad: “Dylent ddenu tipyn o dorf. Mae’r
Llydäwyr yn falch iawn o’u cerddoriaeth, dawnsiau a’u diwylliant a byddwch yn
gallu clywed sŵn y band swnllyd hwn ar draws yr Ardd.”

Mae’r Ardd ar agor rhwng 10am-6pm. Os hoffech fwy o wybodaeth, e-bostiwch  info@gardenofales.org.uk neu ffoniwch 01558 667149.

Leave a Reply

*