Gwyddoniaeth gardd o dan y chwyddwydr

Gwyddoniaeth gardd o dan y chwyddwydr

Mae gwyddoniaeth a chelf Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn ganolbwynt y dathliadau yn China i nodi Wythnos Cymru (Wales Week).

Mae arddangosfa yng Ngardd Fotaneg Nanshan yn Chongqing – o dan y teitl ‘Barcode Wales – Beyond the Visible’ – yn cynnwys delweddau a gwaith celf yn darlunio’r prosiect i roi cod-bar DNA i blanhigion blodeuol Cymru.

Canolbwynt yr arddangosfa yw ffotograffau a gymerwyd gan yr Athro Andrea Liggins, Deon y Gyfadran Gelf a Dylunio, Prifysgol Fetropolitan Abertawe, ac fe’u cyflwynir ynghyd ag enghreifftiau gweledol o godau bar DNA planhigion sydd wedi’u cynhyrchu fel rhan o brosiect Cod-bar Cymru Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Dywedodd Dr Natasha de Vere , Pennaeth Cadwraeth ac Ymchwil yr Ardd sy’n arwain prosiect Cod-bar Cymru ac a fydd yn Chongqing ar gyfer Wythnos Cymru: “Cychwynnodd Andrea ei harchwiliadau ar gyfer yr arddangosfa hon trwy ddechrau o’n canolfan wyddoniaeth a thynnu lluniau’r planhigion sy’n tyfu’n wyllt tu allan i’n hadeilad ac yn yr ardal o amgylch.

“Mae gan y rhywogaethau planhigion yn lluniau Andrea bersonoliaeth eu hunain, fel actorion mewn drama. Weithiau gallwn ddweud beth ydynt, weithiau maent yn fwy gwibiog. Mae’r codau bar DNA a roddir gyda phob llun yn gôd i adnabod rhywogaeth y planhigyn hwnnw, hyd yn oed pan na allwn ei adnabod gyda’n llygaid.”

Gardd Fotaneg Nanshan sy’n cynnal yr arddangosfa ac sydd wedi gwahodd yr Athro Liggins, Dr de Vere a chyfarwyddwr Gardd Cymru, Dr Rosie Plummer i Chongqing ar gyfer y dathliadau. Bydd Dr Plummer yn arwyddo’r memorandwm o ddealltwriaeth gyda Nanshan.

Yn ôl Sinba Duan, Uwch-swyddog Cymru yn Chongqing, rhagwelir y bydd yr arddangosfa’n gweld 500,000 o ymwelwyr ym Mawrth ac Ebrill – anterth y tymor ar gyfer Gardd Fotaneg Nanshan.

—————-

* Bydd yr arddangosfa yng Ngardd Fotaneg Nanshan, Chongqing o Chwefror 27 am dri mis.

*Mae Cod-bar Cymru yn brosiect ar y cyd rhwng Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru. Mae’r rhan fwyaf o’r arian i gefnogi’r prosiect hwn yn dod oddi wrth Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, ynghyd â Chyngor Cefn Gwlad Cymru, Llywodraeth Cymru a chyfraniadau gan gymwynaswyr preifat.

* Nod Cod-bar Cymru yw gwneud Cymru yn un o’r cenhedloedd cyntaf i roi cod-bar DNA i’r holl blanhigion blodeuol cynhenid (pob un o’r  1143 o rywogaethau) ac i ddefnyddio ein codau bar ar gyfer cadwraeth bioamrywiaeth ac i wella bywydau pobl.

* Am fwy o wybodaeth am God-bar Cymru ewch i http://www.gardenofwales.org.uk/science/barcode-wales/

Leave a Reply

*