Newyddion
Archive
Popular Tags
Coedwig Bwganod yn codi ei gwreiddiau ac yn dod i’r Ardd
Bydd yr arddangosiad celf amgylcheddol mwyaf arwyddocaol a welwyd yng Nghymru yn magu gwreiddiau yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol.
Mor uchelgeisiol ag yw’n brydferth, mae’r Goedwig Bwganod yn cynnwys 10 o foncyffion coed pren caled enfawr sy’n amlygu cyfradd ofnadwy datgoedwigo.
Bydd y coed – sydd wedi cael eu harddangos ar Sgwâr Trafalgar yn Llundain a thu allan i adeiladau’r Senedd Ddanaidd yn Copenhagen – yn awr yn dod o hyd i’w cartref newydd a pharhaol yn yr atyniad yn Sir Gaerfyrddin.
Daeth y 10 boncyff, sydd ar hyn o bryd tu allan i Amgueddfa Hanes Naturiol Prifysgol Rhydychen, i Ewrop o goedwig bwysig a ddefnyddir yn fasnachol gan yr artist Angela Palmer. Roedd yn ymarfer logistaidd enfawr.
Ei nod oedd amlygu datgoedwigo a disbyddiad adnoddau naturiol y byd ar ôl dysgu bod coedwig drofannol o faint cae pêl-droed yn cael ei dinistrio bob pedair eiliad.
“Cwympodd y mwyafrif o goed y Goedwig Bwganod yn naturiol mewn stormydd ac mae eu gwreiddiau yn dal i fod ganddynt. Maen nhw’n ‘llysgenhadon’ ar gyfer coed coedwigoedd trofannol y byd”, dywedodd Ms Palmer. “Mae absenoldeb eu canghennau a’u dail yn drosiad sy’n cyfleu ein bod dinistrio ‘ysgyfaint’ y byd trwy ddatgoedwigo.”
Daeth â’r boncyffion o goedwig yng nghanol coedwig Suhuma yn Ghana, Gorllewin Affrica, gyda chydweithrediad llawn y boncyffwyr ac awdurdodau’r wlad. Mae’r goeden fwyaf yn 300 oed ac yn pwyso 19 tunnell.
Cânt eu cludo i Sir Gaerfyrddin o Rydychen ar 10 lori ar Orffennaf 28 a’u gosod ar y 29ain.
Dywedodd cyfarwyddwr yr Ardd, Dr Rosie Plummer, bod yr Ardd yn gartref delfrydol ar gyfer y coed: “Mae’n anrhydedd mai’r Ardd Fotaneg Genedlaethol fydd cartref newydd y boncyffion.
“Mae wir yn tanategu ac yn atgyfnerthu neges graidd yr Ardd o ran cynaliadwyedd a chadwraeth – hefyd bydd cyffwrdd y coed enfawr hyn a rhedeg rhyngddynt yn llawer o hwyl a sbri. Faint o bobl sy’n medru dweud eu bod wedi bod mor agos i goedwig drofannol?”
“Nid yn unig y mae’r Goedwig Bwganod wedi profi i fod yn arddangosfa eiconig enwog, roedd yn rhaid dod o hyd i gartref eiconig iddi hefyd.”
Am fwy o wybodaeth, rhowch glic ar www.ghostforest.org
Am fwy o fanylion am ddigwyddiadau’r Ardd, rhowch glic ar www.gardenofwales.org.uk neu e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk neu ffoniwch 01558 667149







