Newyddion
Archive
Popular Tags
Anrhegion Arbennig o’r Ardd
A y’ch chi’n chwilio am yr anrheg berffaith ar gyfer yr un o’r teulu y mae’n anodd dod o hyd i anrheg iddo (iddi)? Gall ffair arbennig i’w chynnal yn Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru fod yn ateb i’ch problem.
Mae penwythnos ‘Ffair Roddion’ yr Ardd – ar Ddydd Sadwrn a Dydd Sul, Tachwedd 10-11 – yn cynnwys amrywiaeth mawr o stondinau yn cynnig ystod eang o gynhyrchion.
Os y’ch chi’n chwilio am hamperi a cherdiau Nadolig, offer crefft, matiau diodydd, crisialau, canhwyllau, a theganau meddal, dyma’r ffair i chi, gyda’r holl ddanteithion hyn ac eraill wedi’u casglu o dan yr un to – ac am do!
Cynhelir y Ffair Roddion yn Nhŷ Gwydr Mawr yr Arglwydd Foster, sef y tŷ gwydr un-bwa mwyaf ar y blaned, a fydd hefyd yn gwarantu na chewch chi’ch gwlychu gan law – drwy’r penwythnos!
Meddai Dawn Crisp, trefnydd y ffair: “Ry’n ni wedi dod ag amrywiaeth ardderchog o fasnachwyr at ei gilydd fydd yn gwerthu popeth o siocled a wnaed yn lleol, caws a tsili, i ddarluniau a phrintiau; blychau adar, arysgrifo llechi a gemwaith gleiniog.”
Cynhelir y ffair o 10.00yb i 4.30yp. Am ragor o wybodaeth a newyddion a digwyddiadau o’r Ardd, neu e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk neu galwch 01558 667149.






