Newyddion
Archive
Popular Tags
Cyfle i weld hebogau ar daith gerdded
Mae Hebogyddiaeth y Mynyddoedd Du nôl yn yr Ardd ddydd Mercher (Ebrill 18) am ddiwrnod o arddangosiadau hedfan ysblennydd.
Bydd hebogau harris, boncathod a thylluan fawr yn esgyn i’r awyr fel rhan o ddwy sioe, un am 12 y prynhawn a’r llall am 2pm, a bydd yna gyfle i ymwelwyr rhoi cynnig ar hebogyddiaeth.
Yn y cyfamser, mae’n amser am Grwydr Trwy’r Cyfandir gyda’n teithiau wythnosol o amgylch y Tŷ Gwydr Mawr bob dydd Mercher. A hoffech chi ddod o hyd i’r planhigion mwyaf prin, peryglus, rhyfedd, anwesol, ffrwydrol sy’n tyfu gyflymaf ac sy’n arogli felysaf tu fewn y Tŷ Gwydr Mawr? Yna dewch ar daith gerdded fer o amgylch y tŷ gwydr sydd â’r rhychwant sengl mwyaf ar y blaned.
Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01558 667149 neu e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk neu rhowch glic.








