Newyddion
Archive
Popular Tags
Shw Mae, Gymydog. Dewch i mewn!
Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru wedi datgan Dydd Gwener, Medi 7fed, 2012, yn ‘Ddiwrnod SA32’, sy’n golygu mynediad am ddim i unrhywun sy’n gallu profi ei bod nhw’n byw yn yr ardal côd post arbennig hwn.
Bydd y digwyddiad ‘Cwrdd â’r Cymdogion’ yn cynnwys anerchiadau pwysig gan staff yr Ardd, teithiau tywysedig tu ôl i’r llenni ac adloniant.
Meddai David Hardy, Pennaeth Marchnata: “Y syniad yw ceisio cysylltu â’r bobl hynny sy’n byw fwyaf agos at yr Ardd. Ry’n ni wedi cynllunio rhestr hir o anerchiadau, teithiau tywysedig, a gweithgareddau eraill, fydd yn para am ddiwrnod cyfan – gan gynnwys rhai sydd ddim ar gael i’r ymwelydd cyffredin.”
Dyma rai o uchafbwyntiau’r ‘Diwrnod SA32’: taith ‘O Dan y Tŷ Gwydr Mawr’; sesiwn ‘Cwrdd â’r Cyfarwyddwr, ‘Helfa Madarch Gwylltion’, ‘Taith Gerdded ym Môr y Canoldir’, a ‘Thaith y Bwganod’ ynghyd â cherddoriaeth a dawnsio.
Er mwyn hawlio eich mynediad am ddim, dewch â’ch bil treth o’r cyngor, neu ddogfen hunaniaeth arall (gyda llun os yn bosibl).
Mae’r Ardd ar agor rhwng 10.00yb a 6.00yh. Am ragor o wybodaeth, neu e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk, neu galwch 01558 667149.







