Diddordebau difyr yn yr Ardd

Diddordebau difyr yn yr Ardd

Bydd yna hobïau a chrefftau o bob math yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru rhwng Mehefin 2 – 5. O arddangosfeydd tai doliau gan Gymdeithas Tai Doliau Gorllewin Morgannwg, modelau rheilffyrdd, gemwaith, cwiltiau, gwneuthurwyr les a ffotograffiaeth i arddwriaeth, sesiynau gan arddwyr a chanŵio ar y llynnoedd, fe fydd yna rywbeth i’r teulu cyfan.

Bydd yna ddigon i ddiddori pobl sy’n frwd dros drenau yn Nhŷ Principality, a bydd gennych gyfle i gymryd llaw eich partner ar Sgwâr y Mileniwm ar gyfer dawnsio llinell Americanaidd. Bydd Jugglestruck o gwmpas i adlonni’r plant ar ddydd Sadwrn a dydd Sul (Mehefin 2 – 3) a bydd y Quack Pack byd-enwog yn difyrru’r dorf ar y dydd Llun (Mehefin 4). I’r rheiny sy’n caru’r awyr agored, bydd gennych chi
gyfle i weld yr Ardd ar ei gorau  ynghyd â chanwiau ar gadwyn o lynnoedd hyfryd yr Ardd.

Bydd y Tŷ  Gwydr Mawr yn fyw gydag arddangosfeydd gan Gymdeithas Cerfio Pren Prydain, a bydd troellwyr pren rhanbarthol yn troi pennau wrth iddynt arddangos eu doniau. Bydd Cymdeithas Ffotograffig Dinefwr yn arddangos ei gwaith a bydd sgyrsiau a sleidiau ar gyfer darpar David Baileys Gorllewin Cymru a thu hwnt.

Dywedodd y Trefnwr Les Bryan: “Fe fydd yn ddigwyddiad gwych ar gyfer penwythnos Gŵyl y Banc. Roedd y Penwythnos Hobïau yn llwyddiant y llynedd ac mae’r Ardd yn lleoliad hyfryd ar ei gyfer. Rydyn ni’n gyffrous iawn amdano.”

Cynhelir y Penwythnos Hobïau yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol ar Fehefin 2, 3, 4, a’r 5 rhwng 10am-6pm.

Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01558 667149 neu e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk

 

 

 

Leave a Reply

*