Newyddion
Archive
Popular Tags
Menywod Ysbrydoledig Cymru
Mae botanegwyr Cymru yn cymryd rhan arweiniol yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Mae arddangosfa, sy’n dwyn y teitl Botanegwyr Ysbrydoledig – Menywod Cymru, yn nodi cyfraniad menywod i wyddoniaeth fotanegol yng Nghymru dros y 200 mlynedd ddiwethaf.
Mae’n arddangos 13 menyw a anwyd neu a addysgwyd yng Nghymru, neu y mae rhan helaeth o’u gwaith wedi cael ei wneud yn y wlad hon. Bydd ymwelwyr yn cael cyfle i ddarllen am eu bywydau a gweld ffotograffau, gwrthrychau a delweddau’r planhigion sy’n gysylltiedig â nhw.
Mae Margot Greer, o Abertawe, yn wirfoddolwr yn llyfrgell yr Ardd ac roedd yn rhan o’r tîm o saith sydd wedi cyflawni’r holl ymchwil ar gyfer yr oriel a’i rhoi ynghyd.
Dywedodd: “Mae deunydd a roddwyd i’r llyfrgell wedi ein hysbrydoli ni i ymchwilio’r menywod anghofiedig hyn. Mae eu gwaith caled wedi arwain at warchod llawer o rywogaethau prin a chynefinoedd anniogel.”
Y gwirfoddolwyr oedd yn cymryd rhan mewn gosod yr arddangosfa oedd Marilyn Caruana, Sue Davies, Loretta Gibbs, Kate Jones, Polly Mason, Iva Thomas, Mike Danford a Margot Greer.
Myfyrwyr o adran y Cyfryngau a Dylunio Graffigol Coleg Sir Gâr, Caerfyrddin, o dan oruchwyliaeth tiwtor y cwrs Karl Sedgewick, a greodd y dyluniadau graffigol ar gyfer yr arddangosfa.
Y 13 botanegydd sy’n cael eu dathlu yn yr arddangosfa, gyda’u cysylltiedig arbennig â Chymru, yw:
Y Foneddiges Caroline Wilkinson, 1822-1881, botanegydd/artist amatur, Y Gŵyr
Eleanor Vachell, 1879-1948, botanegydd amatur, Morgannwg
Mary Richards, 1885-1977, botanegydd/casglydd planhigion, Sir Feirionnydd
Elsie Wakefield, 1886-1972, mycolegydd, bywyd cynnar yn Abertawe, Gŵyr
Irene Vaughan, 1889-1993, botanegydd maes/cofnodydd sir, Sir Gaerfyrddin
Yr Athrawes Lily Newton, 1893-1981, gwymonegydd, Prifysgol Aberystwyth
Janet Macnair, 1903-1975, botanegydd amatur, Sir Drefaldwyn
Ann Conolly, 1917-2010, botanegydd, Llŷn ac Ynys Enlli
Dr Mary Gillham, 1921- , botanegydd, naturiaethwraig/awdures, Ynysoedd Cymru
Dr Helgi Opik, 1936- , botanegydd/uwch ddarlithydd, Prifysgol Cymru Abertawe
Yr Athro Dianne Edwards, 1942- palaeobotanegydd, Prifysgol Caerdydd
Professor Lynne Boddy, 1955- , mycolegydd, Prifysgol Caerdydd
Dr Natasha De Vere, 1973- , ymchwilydd planhigion, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Ychwanegodd Margot: “Nid rhestr gynhwysfawr o fenywod yn y maes hwn mo hon. Mae’n seiliedig ar ymchwil a gyflawnwyd gan ein gwirfoddolwyr Llyfrgell yn 2011 i fenywod sy’n gysylltiedig â Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru neu ei llyfrgell, ac fe’i bwriedir i fod yn gatalydd i ddod i wybod mwy.”
Os ydych yn meddwl ein bod wedi anghofio rhyw ferch, rhowch wybod i ni drwy libraryuser@gardenofwales.org.uk









As the great niece of Eleanor Vachell I am most interested in your exhibition on Women Botanists. I have been in touch with Dr Tim Rich in the past and I presume that you have talked with him about Eleanor’s great contribution to the field of botany. I wish you well with this exhibition, which I will try hard to visit at some point during the month. If there is anything that I can add to your knowledge of Eleanor’s work, please get in touch.
Hello Bridget
Thanks so much for your message about Eleanor Vachell. Tim Rich was with us today for a special reception which included four of our 13 women, and many friends and colleagues. Tim arranged for Eleanor’s Diary to be reprinted in time for this exhibition, which will be in the Gallery for March, then up in the foyer near the library for April and May. We would be delighted to see you and show you what we do have about her, and hope you might fill in some of the gaps. Please let us know when you are coming – email library@gardenofwales.org.uk
Thanks to all for inviting us to the special reception last week. The exhibition looks fantastic, and everyone was really impressed with the amount of work that everyone has put in over the last couple of months to bring it all together. Well done to all of the volunteers involved who organised and gathered all of that information. Well done to the students who did such a good job on the designs, and thanks to all who gave positive feedback on the work produced.
The students really enjoyed the day (especially the cakes!), and it was great to actually meet some of the inspirational women botanists in the flesh.
Congratulations to all those involved.