Newyddion
Archive
Popular Tags
Amser potio yn yr Ardd
Bydd gwneud ‘Menyw Potiau’ Cymreig yn un o’r gweithgareddau i’r teulu a gynhelir yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn ystod hanner tymor.
Bydd y Pennaeth Dysgu Jane Richmond yn arwain y sesiynau gwneud ‘menyw potiau’. Dywedodd: “Rwy’n gwybod ei fod yn swnio’n wallgof ond mae ‘menyw potiau’ Cymreig yn fenyw sydd wedi’i gwisgo mewn gwisg draddodiadol allan o botiau blodau. Mae’n weithgaredd hwyl a sbri ac rydyn ni’n siŵr ei fod yn rhywbeth y gall y teulu i gyd fod yn rhan ohono.”
Cynhelir gweithgareddau i’r teulu yn yr Ardd o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod hanner tymor ac, yn ogystal â gwneud eich menyw potiau Cymreig eich hun, gallwch chi roi cynnig ar ‘Tyfu Eich Hun’, ‘Crefft ar gyfer yr Ardd’ a ‘Dihangfa’r Rawnwinen’ boblogaidd.
Ar ddydd Llun a dydd Mawrth (Chwefror 13-14), byddwn ni’n rhoi awgrymiadau ynglŷn â sut i dyfu salad a llysiau eich hun. Ar ddydd Iau a dydd Gwener (Chwefror 16-17), bydd yna sesiynau crefft lle y gallwch greu menyw potiau eich hun, pen bwgan brain a labeli diddorol i’ch planhigion. Yna ddydd Mercher, pam na wnewch chi roi cynnig ar wneud rafft allan o ddeunydd planhigion sydd wedi’u hailgylchu ac yna ei hwylio i lawr cornant hyfryd yr Ardd.
Bydd yr holl weithgareddau yn rhedeg rhwng 11am-3pm a byddant yn rhad ac am ddim gyda’r prisiau mynediad arferol.
Os hoffech fwy o wybodaeth am ddigwyddiadau’r Ardd, rhowch glic ar www.gardeonofwales.org.uk neu ffoniwch 01558 667149.




-1327585734.jpg)



