Newyddion
Archive
Popular Tags
Gwerthiant mis Ionawr yn yr Ardd
Cynhelir cyfres o ddigwyddiadau arbennig yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn ystod mis Ionawr.
Mae Ffair Henebion y Dderwen yn dychwelyd ar Ddydd Sadwrn a Dydd Sul, Ionawr 12-13. Mae’r Penwythnos Crefft Coed yn digwydd ar Ionawr 19-20, ac mae’r Ffair Fwyd ar y fwydlen ar gyfer Ionawr 26-27 – mae’r tâl mynediad i’r holl ddigwyddiadau hyn yn £2 yn unig.
Y digwyddiad cyntaf yn y flwyddyn newydd yw Cyfres o Gyngherddau Gaeaf y Menywod Celtaidd ar Ddydd Sul, Ionawr 6ed, sy’n cynnwys y cantoresau a’r cyfansoddwragedd lleol, Jemma Kryse a Sarah Passmore. Mae mynediad i’r digwyddiad hwn YN RHAD AC AM DDIM, ac heb law am y penwythnosau gyda digwyddiadau, mae gweddill mis Ionawr am ddim”.
Bydd gwerthiant arbennig o eirlysiau drwy gydol y mis (tra bod stociau’n parhau), a bydd y sioe yn yr Oriel, ‘Tirwedd Nawr’, yn cynnwys gwaith tri arlunydd: Karen Pearce, Nigel Wood a Gareth Hugh Davies.
Meddai Pennaeth Marchnata yn yr Ardd, David Hardy: “Dyw’r digwyddiadau i gyd ddim yn rhad ac am ddim, ond ry’n ni’n credu bod £2 y pen yn cynrychioli gwerth arbennig am yr arian. Hefyd, os nad ydych yn hoffi torfeydd, yna dewch draw i un o’r diwrnodau di-digwyddiad – mae 25 diwrnod i ddewis rhyngddynt”.
Am ragor o wybodaeth am newyddion a digwyddiadau yn yr Ardd, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk neu galwch 01558 667149.







