Iau yn codi

Iau yn codi

Bydd gwylwyr sêr ar bigau’r drain wrth iddynt aros am olygfa dda o’r nefoedd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ddydd Gwener Chwefror 17.

Mae’r trefnwyr o Gymdeithas Seryddol Abertawe yn gweddïo am awyr clir oherwydd, gan fydd hon yn noson ddi-leuad, fe fydd yn gyfle gwych i weld Iau a’i loerau.

Byddant hefyd yn cyfeirio eu telesgopau at y blaned Gwener hyfryd, y blaned Mawrth goch ddisglair, yr Orion Nebula a gwrthrychau eraill yn y gofod.

Dywedodd Colin Miles, aelod o Gymdeithas Seryddol Abertawe: “Os yw Brian Cox a’r rhaglen BBC Stargazing Live yn eich ysbrydoli chi – neu efallai bod rhywun wedi prynu telesgop i chi neu’ch bod yn meddwl am brynu un – galwch heibio gyda’ch telesgop a siaradwch gyda’n harbenigwyr.”

Yn ogystal â’r clinigau telesgop, bydd Brian Spinks, aelod o Gymdeithas Seryddol Abertawe yn rhoi cyflwyniad a fydd yn dwyn y teitl ‘Sunspots and the Weather’ (am 7.15pm) a bydd Brian Stokes yn rhoi cyflwyniad am 8.15pm o’r enw ‘The Wonders of the World and Universe – Part Two’.

Bydd cawl a choffi ar werth yn y bwyty i’ch cadw’n gynnes. Tâl mynediad fydd £3 y person a gall unrhyw un dan 16 oed gael mynediad am ddim.

Os hoffech fwy o wybodaeth, ffoniwch 01558 667149 neu e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk  Os hoffech fwy o wybodaeth am y digwyddiad hwn neu am ddigwyddiadau eraill yr Ardd, rhowch glic ar www.gardenofwales.org.uk

 

Leave a Reply

*