Newyddion
Archive
Popular Tags
Tocyn nôl i’r Ardd
Mae ‘tocyn dychwelyd’ arbennig sy’n caniatau mynediad yn rhad ac am ddim am wythnos ar gael eto yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Bydd unrhyw berson sy’n prynu tocyn i’r Ardd rhwng nawr a dechrau mis Medi yn cael dychwelyd Yn Rhad Ac Am Ddim am saith niwrnod ar ôl yr ymweliad cyntaf.
Dywedodd Bennaeth Marchnata, David Hardy: “Roeddwn wedi cynnig y tocyn dychwelyd hwn ym mis Awst y llynedd ar ôl derbyn cryn dipyn o adborth gan ymwelwyr am sut na lwyddon’ nhw i weld yr holl wahanol rannau o’r Ardd yn ystod eu hymweliad.
“Rydym yn dweud ‘Nid yw diwrnod yn ddigon i weld y cyfan’ ond yn aml iawn, ymwelwyr o i ffwrdd a nad ydyn yn gyfarwydd â’r Ardd sydd ar golled. Mae hyn yn ffordd dda felly o sicrhau bod yna gyfle iddyn’ nhw i ddychwelyd a gweld rhagor os ydynt yn dymuno – yn rhad ac am ddim.”
Mae’r Ardd yn ymestyn bron 600 erw wrth gynnwys Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las a chwm coediog hudol Pont Felin Gat, at galon yr atyniad. Mae llawer i’w weld hefyd, yn cynnwys elfennau newydd fel yr arddangosfa wych ar ffwng “O Deyrnas Arall”, Llwybr Technoleg Werdd newydd o gwmpas holl esiamplau’r Ardd o gynaladwyedd, a chloddfa archaeolegol er mwyn datgelu’r hyn yr ydym yn tybio i fod yn blasdy a gardd canol oesol. Ar gyfer yr haf, mae yna raglen lawn o weithgareddau hwyliog i’r teulu gan gynnwys Gemau Olympaidd yr Ardd, hebogaeth a mir-gathod.
Yn sicr, synnwyr cyffredin yw rhoi digon o amser i chi eich hunan i weld yr Ardd a’i holl atyniadau yn eu cyfanrwydd.
Bydd y cynllun ‘Tocyn Dychwelyd’ yn gymwys i bob tocyn mynediad pris llawn sy’n cael ei brynu rhwng Gorffennaf 20fed a Medi 9fed.
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 01558 667149 neu anfonwch e-bost at info@gardenofwales.org.uk







