Meddyginiaethau ym Mai

Meddyginiaethau ym Mai

Gŵyl blanhigion ac iechyd am fis cyfan yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Mae planhigion wedi cael eu defnyddio am filoedd o flynyddoedd i drin salwch. Ond pa mor berthnasol ydyn nhw i feddyginiaethau’r 21ain ganrif?

Bydd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn eich helpu chi i benderfynu. I wneud hyn, rydyn ni’n cynnal cyfres o sgyrsiau, cyrsiau, arddangosfeydd a gweithgareddau hwyl a sbri trwy gydol Mai 2012. Pob dydd Mercher bydd ymwelwyr yn cael cyfle i wneud cymysgeddau llysieuol eu hun a gwrando ar ddarlith ddiddorol am feddyginiaethau sy’n deillio o blanhigion.

Ar y penwythnosau bydd gan ymwelwyr gyfle i ddysgu am fwyd iach a gofyn i fôr-leidr pa sbeisiau o’i long fydd yn eu hamddiffyn rhag y pla.

Ond os dewch unrhyw bryd ym Mai, byddwch yn darganfod ychydig o ddelweddau anhygoel am Feddygon Myddfai o’r canol oesoedd yn ein Horiel Gelf ac yn ein Tŷ Gwydr Mawr byddwch chi’n gallu defnyddio eich Smartphone i leoli rhai o blanhigion meddyginiaethol mwyaf rhyfeddol y byd.

Leave a Reply

*