Achlysur Clasurol!

Bydd dydd Sadwrn, Hydref 15fed , yn glasur o ddiwrnod i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru pan fyddwn ni’n cael ymweliad gan berchnogion ceir MG o bob cwr o dde a gorllewin Cymru .

Mae’r rali wedi ei drefnu gan Glwb Ceir MG Sir Benfro, ac mae’r ysgrifennydd, Roy Thomas, yn edrych ymlaen at ddiwrnod arbennig: “ Mae sawl blwyddyn wedi mynd heibio ers i ni ymweld â’r Ardd, felly mae pawb yn edrych ymlaen at yr achlysur.

“Rydym ni wedi gwahodd aelodau o glybiau Penybont ac Abertawe hefyd, ac mae’n hyfryd nodi bod lefel y diddordeb  mewn arddangos yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yn cynyddu.”

 Bydd y grŵp yn cyrraedd am 11am ac yn parcio yn Sgwâr y Mileniwm er mwyn i’r ymwelwyr gael cyfle i weld y cerbydau. Byddant yma tan yn gynnar yn y prynhawn.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch at www.gardenofwales.org.uk, anfonwch e-bost at  info@gardenofwales.org.uk neu gallwch ffonio  01558 667149.

 [Gallery not found]

 

Comments are closed.