Newyddion
Archive
Popular Tags
Môr-ladron, pla a phlanhigion ar gyfer iechyd
Bydd ymwelwyr Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn cael eu cludo 400 mlynedd yn ôl mewn amser y Pasg hwn.
Bydd actorion o Theatr Chance Encounters yn adrodd hanes y teulu Middleton oedd yn masnachu sbeis a symudodd yn y 1600au cynnar i’r tir lle mae’r Ardd bellach yn sefyll.
Yn ‘Môr-ladron, Pla a Phlanhigion i Iechyd’, bydd ymwelwyr yn cymryd llwybr ryngweithiol lle byddant yn cwrdd â morwyr, gweision a menywod doeth a fydd yn eu helpu i gael gwybod sut wnaeth y teulu Middleton wneud eu ffortiwn a sut oeddent wedi ceisio osgoi cael y pla.
Yn y cyfamser, mae Clwb Cerbyd Dyfed hefyd yn addo sioe ardderchog ddydd Llun y Pasg. Bydd hefyd cerddoriaeth, hud, modelu balŵnau ac arddangosfa gan Black Mountains Falconry.
Mae’r clwb cerbyd, oedd yn boblogaidd iawn dros y Pasg, yn addo mwy o gerbydau disglair a lliwgar wedi eu haddurno ar gyfer eu ‘gorymdaith’ ar ddydd Llun y Pasg. Dywedodd Lester Dagge, llefarydd ar ran y Clwb: “Rydym yn gorymdeithio trwy’r Ardd ac yna fe fydd yn amser roi gwobrau am y ‘cerbyd gyda’r gwisg gorau’. Mae’n hwyl ac yn lle hyfryd i fod. ”
Ar gyfer y rhai sy’n hoff o blanhigion, mae “Dydd Mercher – Mentro trwy’r Canoldir” – teithiau cerdded tywysedig drwy gasgliad Môr y Canoldir y Tŷ Gwydr Mawr trawiadol yr Arglwydd Foster. Mae’r teithiau cerdded yn digwydd bob dydd Mercher trwy gydol mis Ebrill, gan ddechrau ar y 4ydd.
Bydd y byd-enwog Quack Pack yn yr Ardd ddydd Sadwrn y Pasg a Sul y Pasg a dylai cefnogwyr adar-ysglyfaethus wneud dyddiad i weld Black Mountains Falconry ar Ebrill 11 a 12.
Am fwy o wybodaeth am holl ddigwyddiadau’r Ardd, ewch i http://www.gardenofwales.org.uk/whats-on/events/




-1332865894.jpg)


