Neges murlun Rose yn magu gwreiddiau

Neges murlun Rose yn magu gwreiddiau

Bydd gwaith y bencampwraig newid hinsawdd Rose Stevens yn cael ei arddangos yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Yn ystod ei blwyddyn fel pencampwraig ‘werdd’, creodd y disgybl o Ysgol Eglwys Gadeiriol Caerdydd furlun a oedd yn annog pawb i gyfrannu at ddyfodol mwy disglair a ‘gwyrdd’.

Dywedodd Rose sy’n 17 oed: “Roeddwn i yn un o chwe Phencampwr Newid Hinsawdd Cymru.

“Nod y rôl hon oedd hysbysu pobl o newid hinsawdd a’r camau syml y gallan nhw eu cymryd i helpu i leihau ôl-troed carbon Cymru.”

Mae Rose, sy’n byw ym Morgannwg, wrth ei bodd bod gan ei murlun gartref o’r diwedd lle bydd miloedd ar filoedd o ymwelwyr yn gweld ei neges yn erbyn newid hinsawdd. Bydd y murlun yn cael ei ddadorchuddio yn swyddogol yn yr Ardd ddydd Mawrth Ebrill 3.

Ychwnaegodd Rose, cyn brif ferch Ysgol Eglwys Gadeiriol Caerdydd: “Roeddwn i yn yr Ardd ar gyfer Gŵyl Start lle bues i’n ddigon ffodus i gwrdd â Thywysog Cymru, un o uchafbwyntiau fy mlwyddyn fel Pencampwraig Newid Hinsawdd. Rydw i mor bles bod fy murlun yn cael ei arddangos yn yr Ardd Fotaneg brydferth, lle y bydd pobl yn meddwl am y tirlun a sut mae’r hinsawdd yn effeithio ar ein byd.”

Roedd Peter Davies, Cadeirydd Comisiwn Newid Hinsawdd Cymru, yn clodfori gwaith Rose. Dywedodd: “Dyma enghraifft arbennig o effaith creadigol y Pencampwyr Newid Hinsawdd. Dyma ffordd anarferol ac arloesol o drosglwyddo’r neges ynglŷn â phwysigrwydd mynd i’r afael â newid hinsawdd.”

Dywedodd Dr Rosetta Plummer, Cyfarwyddwyr yr Ardd Fotaneg Genedlaethol: “Pleser yw cael y murlun yn yr Ardd. Rydyn ni’n mynd ati o ddifrif i gefnogi Siarter Cynaliadwyedd Cymru ac rydyn ni’n credu’n gryf mewn trosglwyddo’r neges bod planhigion, bioamrywiaeth a’r adnoddau a ddefnyddiwn yn gwneud gwahaniaeth allweddol i genedlaethau’r dyfodol.  Mae’n wych gweld y neges hon yn cael ei throsglwyddo mewn ffordd mor weledol a dirgrynol.”

Gwelwch y murlun o ardal chwarae’r plant a bwyty’r Ardd, a bydd yn cael ei gynnwys yn Nhaith Gynaliadwyedd boblogaidd yr Ardd.

 

 

One Response to “Neges murlun Rose yn magu gwreiddiau”

  1. Lauan says:

    the mural painting was a great event! Great food, good music, and great cmnpaoy. It was such a great event and I liked that all of the food was loclly grown and the garden has taught me to try and grow my own food. The mural looks amazing, and it looks even better up close! Great job Ria on putting on such a great event!

Leave a Reply

*