Newyddion
Archive
Popular Tags
Mae Siôn Corn ar ei ffordd
Bydd Siôn Corn yn cyrraedd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ddydd Sadwrn Rhagfyr 1.
Fe fydd yn byw yn groto’r Ardd dros y penwythnosau cyn y Nadolig ac mae Sioe Siôn Corn yn rhedeg o 11.30am pob dydd – gydag anrheg ar gyfer pob plentyn sy’n dod i’w weld.
Mae mynediad i groto Siôn Corn yn £2 y person.
Os hoffech fwy o wybodaeth am weithgareddau’r Ŵyl yn yr Ardd, ffoniwch 01558 667149.








