Diwrnod arbennig o ganu gwerin

Diwrnod arbennig o ganu gwerin

Bydd enwau mawr canu gwerin Cymru yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar Fehefin 2ail.

Mae’r diwrnod traddodiadol o gerddoriaeth a dawns Cymreig-Llydewig yn cynnwys perfformiadau gan Ceri Rhys Matthews a Julie Murphy o’r grŵp, Fernhill, a Peni Ediker a Stef Balesi o’r Mordekkers.

 

Mae sêr eraill o fyd canu gwerin hefyd yn ymddangos ar y llwyfan – fel Martin Leamon (Sild), Sille Ilves o Estonia, y pibydd-ffliwtydd Jason Lawday, a’r delynores Ceri Owen Jones (o Fand Pentref Bethlehem).

Meddai’r Trefnydd, Peni Ediker: “Mae’r Ardd yn leoliad syfrdanol i achlysur fel hwn.  Byddwn ni’n defnyddio lleoliadau gwahanol o amgylch y safle, gan berfformio cerddoriaeth i ymwelwyr trwy gydol y dydd.”

Y cynllun yw y bydd yr holl berfformwyr yn dod at ei gilydd ar gyfer ‘twmpath’ fel diweddglo i nodi diwedd y digwyddiad.

Bydd y gerddoriaeth yn chwarae o 1.00yp i 6.00yh, ac fe’i gynhwysir yn nhâl mynediad arferol yr Ardd.

Am fwy o wybodaeth am hwn a digwyddiadau eraill yn yr Ardd, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk, neu galwch 01558 667149.

Leave a Reply

*