Newyddion
Archive
Popular Tags
Prosiect Arbennig yn rhoi tirnodau ar y map
Cartref Brenhinol, palas esgob, goleudy, maes awyr a chastell neu ddau; mae’r rhain i gyd wedi bod yn ffocws prosiect ffotograffiaeth tirnodau gan 150 o ddisgyblion o unedau cynnal dysgu rhwng Aberdaugleddau ac Abertawe.
Mae penllanw’r prosiect ‘Dysgu drwy’r Tirwedd’ yn arddangosfa wych o ddelweddau yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, a fydd yn cael ei agor gan Uchel Siryff Dyfed, sef Thomas Lloyd OBE DL am 10.45am ddydd Gwener, 23 Medi.
Derbyniodd y prosiect ‘Dysgu drwy’r Tirwedd’ nawdd gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru a Chronfa’r Loteri Fawr. Bu 150 o ddisgyblion o 10 ysgol yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro ac Abertawe’n cymryd rhan. Cafodd y plant i gyd gamera digidol a hyfforddiant ar sut i’w defnyddio. Yna, rhoddwyd y dasg iddynt o ymweld ag amrywiol leoliadau ger eu hysgolion er mwyn tynnu lluniau.
Dywedodd rheolwr y prosiect, Cheryl Kitt: “Roedd gan bob un o’r 10 ysgol a oedd yn cymryd rhan 15 o ddisgyblion o’r unedau cynnal dysgu yn cymryd rhan yn y prosiect, a chawsant gymorth gan 100 o fentoriaid o ddosbarthiadau eraill yn yr ysgolion, i olygu ac argraffu mewn sesiynnau dosbarth.
“Y bwriad oedd ymestyn cynhwysiant cymdeithasol a chymunedol, tra’n meithrin hunan barch a hyder ymysg y disgyblion a oedd yn cymryd rhan yn y cynllun … ”
Roedd yr ysgolion a oedd yn cymryd rhan yn cynnwys y canlynol: Ysgol Uwchradd ac Ysgol Iau Aberdaugleddau, Ysgol Uwchradd Coedcae ac Ysgol Gynradd Gymunedol Maes Y Morfa, Llanelli; Ysgol Arbennig Penbryn ac Ysgol Uwchradd Penyrheol, Abertawe; Ysgol Uwchradd Y Frenhines Elizabeth ac Ysgol Gynradd Treioan, Caerfryddin; Ysgol Uwchradd Pantycelyn ac Ysgol Gynradd Rhys Pritchard, Llanymddyfri.
* Bydd yr Arddangosfa yn yr Ardd yn agor am 10.45am ddydd Gwener, 23 Medi, ac yn parhau ar y dydd Sadwrn a dydd Sul.
* Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar agor yn ddyddiol rhwng 10am-6pm.
* I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Cheryl drwy ffonio 01554 772857, neu drwy e-bostio: cheryl.kitt@chrt.org.uk neu drwy ymweld â www.bigpicturewales.blogspot.com.








This is an inspirational exhibition that just shows what young people can do! Congratulations to all exhibitors for the super pictures you are sharing with us. Congratulations and thanks to to all who have provided the support and worked so hard to bring this about!