Newyddion
Archive
Popular Tags
Wythnos arbennig i wirfoddolwyr
Dywedodd Cydlynydd y Gwirfoddolwyr Jane Down: “Mae ein gwirfoddolwyr yn gwneud gwaith gwych a dyma un ffordd y gallwn ni ddangos ein gwerthfawrogiad. Rydyn ni’n gwybod eu bod yn ymfalchïo yn y gwaith a wnânt yma yn yr Ardd felly dyma gyfle iddynt ddangos canlyniadau eu gwaith caled.”
Mae hefyd yn bosibl, dywedodd Ms Down, bod gan rai o’r gwesteion arbennig ddiddordeb mewn gwirfoddoli yn yr Ardd hefyd.
Bydd yn wythnos brysur i’r gwirfoddolwyr a fydd rhoi croeso i’w cymheiriaid o Aberglasni ar y nos Fercher.
Bydd ffrindiau a theuluoedd y gwirfoddolwyr hefyd am wybod am lansiad digwyddiad “Chwilio am Flodau Gwyllt” newydd yr Ardd a fydd yn digwydd ar y dydd Mercher. Bydd yn cynnwys taith dywys o amgylch dolydd blodau gwyllt y warchodfa natur genedlaethol ac ar y dydd Sadwrn, bydd Theatr Quantum yn yr Ardd yn perfformio Beatrix Potter. Bydd yr Ardd yn dathlu Sul y Tadau gyda cherddoriaeth a cherbydau.






