Cefnogwch y Gwenyn

Cefnogwch y Gwenyn

Bydd Gwobr y Gwenyn Gweithgar, sioe newydd sbon Theatr na ‘n’Og i blant ifanc, yn dod i’r Ardd Fotaneg Genedlaethol ar Ddydd Sadwrn, Gorffennaf 21.

Breuddwydia Byrti’r gwenyn am beillio’r blodau gwyllt yn y wlad, fel ei ffrind hynod lwyddiannus ac abl, Bron, yn lle gorfod peillio hen afalau diflas, fel y gofynnwyd iddo wneud.

Mae Byrti’n penderfynu torri’r rheolau a bant â fe i chwilio am flodau.  Mae Bron yn ceisio’i gorau i’w stopio, ond dyw Byrti ddim yn gwrando.  Dyw Byrti byth yn gwrando.

Cyn pen dim mae e wedi arwain Bron a’i hunan i berygl, ac mae angen i Byrti brofi ei hun er mwyn achub ei ffrind a’r cwch gwenyn.

Ymunwch gyda ni ar ein taith anturus i fyd y gwenyn, a darganfod pam fod ANGEN GWENYN ARNOM!

Mae’r sioe yn y Theatr Botanica am 11.30yb, 1.30yp a 3.30yp, gyda’r perfformiad 3.30yp trwy gyfrwng  y Gymraeg.

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk, neu ffoniwch 01558 667149.

Leave a Reply

*