Newyddion
Archive
Popular Tags
Hanes Guto Gwningen
Mae diwrnod hudol o theatr awyr agored ar y gweill i’r teulu cyfan yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ddydd Sadwrn Mehefin 16.
Mae perfformwyr poblogaidd Theatr Quantum sy’n ymweld â’r Ardd yn rheolaidd yn dod â’u cynhyrchiad diweddaraf, The Tales of Peter Rabbit and Benjamin Bunny, i’r atyniad ynSir Gaerfyrddin.
Mae Quantum yn addo cynhyrchiad unigryw sy’n berffaith ar gyfer lleoliad awyr agored. Bydd yna gerddoriaeth fyw a fydd yn adlonni ymwelwyr o bob oedran.
Yn y cyntaf o ddwy stori, fe welwn ni Guto Gwningen yn ymdrechu (ac yn methu!) i gadw allan o ardd Mr McGregor a pheidio pechu yn erbyn ei fam . Yn rhan dau, mae ef a Benja Bwni yn dychwelyd i wely llysiau Mr McG i ddod o hyd i ddillad
coll Guto. O diar!
Bydd y perfformiad yn cael ei gynnal rhwng 2pm tan (oddeutu) 4pm a chaiff ei gynnwys yng nghost mynediad arferol yr Ardd.
Os hoffech fwy o wybodaeth amdano neu am ddigwyddiadau eraill yr Ardd, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk neu ffoniwch 01558 667149.







