Adrodd Straeon yn yr Ardd

Adrodd Straeon yn yr Ardd

Mae penwythnos o straeon hyfryd a phleserus ar yr agenda ar gyfer y Penwythnos Adrodd Straeon yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Cynhelir y digwyddiad mewn lleoliadau amrywiol o amgylch yr Ardd ar ddydd Sadwrn a dydd Sul Chwefror 25-26 a bydd yn cynnwys nifer o storïwyr arbenigol, gan gynnwys  Jeff Rees , Anne Lister , Suzanne Hughes Owen,  Grethe Gillham, Sam Collins, Lloyd Roberts, Helen Davies, Sophie McKeand, Bob Edwards, Teena Gould a Fiona Winter.

Mae’r cyfarwyddwr creadigol Cheryl Beer, a fydd hefyd yn adrodd straeon gyda’r cerddor Heather Summers (a ariennir gan Gerddoriaeth Gymunedol Cymru), wedi bod yn rhedeg cyfres o weithdai gyda phlant ysgolion lleol a fydd yn dylunio’r posteri swyddogol ar gyfer y digwyddiad. Dywedodd: “Mae’r digwyddiad hwn yn ddieithr i’r Ardd; dyma ei digwyddiad adrodd straeon cyntaf ond mae cymaint  o straeon i’w hadrodd a gan fod yr Ardd yn lleoliad mor ysbrydoliaethus, dyma’r lleoliad perffaith i ni.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd llawer o bobl – hen ac ifanc – yn galw heibio a chymryd rhan.

[Gallery not found]Yn ôl Cheryl, y nod yw rhoi thema i’r straeon trwy gydol y dydd a bydd ymwelwyr yn gallu symud o un digwyddiad i’r llall fel y mynnont: “Mae gennym ni storïwyr cerddorol, sesiwn adrodd straeon trwy graffiti, a bydd un o’n storïwyr yn adrodd ei straeon trwy gyfrwng gludwaith. I’r rheiny sy’n hoffi gwrando ar stori mewn ffordd fwy traddodiadol, mae hefyd gennym Jackanory Twist gyda Charpedi Hud yn Theatr Botanica. Cymryd rhan a chael hwyl a sbri yw bwriad y digwyddiad.”

Cynhelir y Penwythnos Adrodd Straeon rhwng  11.30am-4pm ar y ddau ddiwrnod a chodir y tâl mynediad arferol.

Os hoffech fwy o fanylion am y digwyddiad, gyrrwch e-bost at  cherylbeermusic@gmail.com

Os hoffech fwy o fanylion am Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, rhowch glic ar

www.gardenofwales.org.uk

 

Leave a Reply

*