Newyddion
Archive
Popular Tags
Rhyfeddodau perlysiau
Crëwch ddiodydd a thrwythau o blanhigion fel anrhegion Nadolig ar gwrs un dydd gyda’r llysieuydd Lara Bernays.
Cynhelir y cwrs ddydd Sadwrn Rhagfyr 10, 10am-4pm yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ac yn ôl Lara fe fydd yn cynnwys “gwneud rhoddion unigryw allan o berlysiau a sbeisiau tymhorol ar gyfer perthynas – o gynhyrchion blodeuol ar gyfer y bath sy’n garedig i’r croen i farrau tylino llawn sbeis i ffrind sydd â chefn tost”.
Dywedodd Lara: “Treuliwch ddiwrnod o hwyl yn dysgu am ryfeddodau perlysiau a gadewch gydag anrhegion, addurniadau a syniadau newydd ar gyfer y Nadolig – y driniaeth berffaith i siopa Nadolig!”
Cewch wybod hanes a rhyfeddodau daionus perlysiau a sbeisiau’r Nadolig. Pam rhoi saets yn eich stwffin, sbeisiau yn eich gwin poeth, sinamon yn eich mins peis? Bydd Lara yn rhannu ei syniadau ar sut i wneud y defnydd gorau o aroglon y gaeaf.
Mae’n costio £35 ac mae’n cynnwys yr holl ddeunyddiau; byddwch chi’n gadael gydag o leiaf tri o anrhegion ac addurniadau hyfryd ar gyfer y Nadolig yr ydych chi wedi’u gwneud eich hun.
Mae’n rhaid i chi archebu eich lle: 01558 667150 kbailey@gardenofwales.org.uk








