Newyddion
Archive
Popular Tags
Enwau mawr yn ymddangos mewn cyfres o gyngherddau
Mae’r gyfres o Gyngherddau Menywod Celtaidd yn dychwelyd i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn ystod y gaeaf hwn gydag enwau mawr cerddoriaeth Gymreig a Chymraeg yn serennu.
Mae un o gantoresau a chyfansoddwraig caneuon mwyaf llwyddiannus Cymru, Amy Wadge, yn dechrau’r gyfres o gyngherddau ar Ddydd Sul, Rhagfyr 2ail. Mae Amy, a ddisgrifiwyd gan neb llai na Bob Harris yn “berfformwraig cyfareddol a chymhellol”, yn cymryd y llwyfan yn y Tŷ Gwydr Mawr rhwng 1.00yp a 2.00yp.
Bydd y newydd-ddyfodiaid, Jemma Krysa a Sarah Passmore, yn rhannu’r llwyfan yn y gyngerdd flwyddyn newydd ar Ddydd Sul, Ionawr 6ed. Roedd y ddwy yn boblogaidd iawn yng Ngŵyl Menywod Celtaidd yr Ardd nôl ym mis Awst, ac maen nhw’n siwr o ddenu torf fawr yn ystod y cyfnod ‘mynediad RHAD AC AM DDIM’ ym mis Ionawr.
Mae llais Lowri Evans, a anwyd yn Sir Benfro, ‘fel hen ffrind’ yn ôl rhai, felly bydd ei pherfformiad yn y Gyngerdd Menywod Celtaidd ar Ddydd Sul, Chwefror 3ydd, yn gyfle arbennig i ail-ymgynefino â’i llais hyfryd. Bydd y gantores a’r gyfansoddwraig ddawnus a dwyieithog hon yn ymddangos am y tro cyntaf yn yr Ardd.
Mae diweddglo’r gyfres o Gyngherddau Menywod Celtaidd yn digwydd ar Ddydd Sul, Mawrth 3ydd, gyda pherfformiad gan gantores werin enwocaf a mwyaf cyfoes Cymru, Sian James. Dyfarnwyd iddi’n ddiweddar Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Cymru Bangor am ei gwasanaeth i ddiwylliant Cymraeg, ac fe fydd hi’n cymryd y llwyfan ar Ddydd Sul, Mawrth 3ydd.
Mae’r gyfres o Gyngherddau Menywod Celtaidd yn digwydd ar Ddydd Sul cyntaf y mis, ac yn cael eu cynnal ar lwyfan y Tŷ Gwydr Mawr. Mae’r cyngherddau’n dechrau am 1.00yp. Trefnwyd y cyngherddau gan y gyfarwyddwraig greadigol sy’n gweithio ar ei liwt ei hun, a’r gantores/gyfansoddwraig arobryn, Cheryl Beer. Meddai hi: “Mae’r Ardd yn leoliad gwir ysbrydoledig, ac mae’n amheuthun cael perfformio yn y Tŷ Gwydr Mawr – mae’n sicr o fod yn gyfres arall o gyngherddau gwych.”
Mae’r Ardd ar agor rhwng 10.00yb a 4.30yp. Am fwy o wybodaeth a newyddion am yr Ardd, ewch i www.gardenofwales.org.uk, neu e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk, neu galwch 01558 667149.








