Newyddion
Archive
Popular Tags
Gorau’r Cnwd
Rydym ni’n mynd yn ddwl am afalau yma yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Ddydd Sadwrn, Hydref 15fed a dydd Sul, Hydref 16eg bydd yma arddangosfa hyfryd o dros 400 o rywogaethau o hoff frwyth pawb – yr afal. Yn ogystal bydd yma gerddoriaeth, cwis afalau, a chyfle i wneud sudd afal ffres gan ddefnyddio ein gwasg, gweithdai llunio bagiau a ffedogau, a chreu bathodynnau.
Hefyd, gallwch fanteisio ar y cyfle i flasu a phrynu afalau, catwad, cawsiau, pasteiod afalau a chynnyrch porc. Bydd ein ‘bwrdd adnabod’ poblogaidd yn cael ei ddefnyddio hefyd, felly os oes gennych chi goeden afalau yn yr ardd, dewch â’r ffrwyth gyda chi er mwyn iddo gael ei adnabod. (Dewch ag o leiaf tri afal cyfan heb eiddeifrodi, yn cynnwys y coesyn.)
Bydd arbenigwr yr Ardd ar lysiau a ffrwythau organig, Sally Hedger, yma er mwyn rhoi cyngor a chymorth ar dyfu a thrin coed afalau. Yn ogystal, bydd Paul Davies o feithrinfa Dolau Hirion, Capel Isaac, yma er mwyn eich helpu i ddewis y rhywogaeth sydd fwyaf addas i chi, a sut mae cael y cnwd gorau posib.
Bydd y fwydlen yn y bwyty ar thema afalau hefyd, yn cynnwys y canlynol: Cawl Cennin, Cawl Afal a chaws gyda bara ac ymenyn, Lwyn Porc Cymreig gyda Saws Seidr Taffy Apple ac Afal wedi ei garameleiddio, yn ogystal â Moussaka madarch o’r maes, tatws ac afal o’r ardd (ynghyd â phwdinau!).
Dywedodd y Pennaeth Marchnata, David Hardy: “Hwn yw’r wythfed tro i ni gynnal yu digwyddiad hwn, ac mae’n argoeli i fod yn benwythnos ‘ffrwythlon’ arall gydag ychydig o bopeth i ddiddanu’n hymwelwyr. Mae’r sî ar led ei bod wedi bod yn flwyddyn arbennig o dda am afalau, felly rydym ni wir yn edrych ymlaen at gnwd mawr.”
Mae’r Ardd ar agor rhwng 10am-4.30pm, gyda’r mynediad olaf am 3.30pm. I gael rhagor o wybodaeth, ffonwich 01558 667149, neu gallwch anfon e-bost at info@gardenofwales.org.uk neu fynd at www.gardenofwales.org.uk








