Newyddion
Archive
Popular Tags
Bwyd o’r Ansawdd Gorau ar y Fwydlen
Cynhyrchwyr lleol sy’n serennu yn Ffair Fwyd Ionawr yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Byddan nhw’n paratoi gwledd go iawn i’n hymwelwyr ar Ddydd Sadwrn a Dydd Sul, Ionawr 26-27, gan gynnwys danteithion blasus addas i bob oedran.
Ar gyfer y cig fwytawyr, mae cig eidion gwartheg hirgorn, baedd gwyllt, cig gwedder, porc a gwiwer; gyda betys a ffriterau panas i lysieuwyr. Gall selogion pysgod fwynhau samwn mwg a phate macrell; mae cwrw lleol, seidr, coffi, sudd afal a gwin; bara ffres, cacennau creadigol; gyda digonedd o gaws, siocled a siytni chilli, yn ogystal.
Meddai Pennaeth Marchnata‘r Ardd, David Hardy: “Mae’n hymwelwyr yn awyddus iawn i gefnogi cynhyrchwyr lleol, gan eu bod nhw’n gwybod bod eu bwydydd a’u diodydd o ansawdd da iawn. Ry’n ni hefyd yn gwybod bod agosatrwydd yn llesol i ffresni bwyd ac yn dda i’r amgylchedd; a bod cefnogi busnesau lleol yn ffordd dda iawn o gefnogi’r economi leol. A allech chi dreulio’r penwythnos mewn ffordd well?”
Ychwanegodd: “ Mae e hefyd yn ffordd anhygoel i glodfori ein harwyr bwyd lleol, sy’n cynnig amrywiaeth eang iawn o gynnyrch o’r safon uchaf. Galla i ddim aros!”
Mae’r Ardd ar agor rhwng 10.00yb a 4.30yp, ac mae tâl mynediad i’r Ardd a’r Ffair Fwyd yn £2 (o dan 16 mlwydd oed, yn rhad ac am ddim).
Am ragor o wybodaeth am ddigwyddiadau’r Ardd Fotaneg, ewch i www.gardenofwales.org.uk neu ffoniwch 01558 667149.







