Newyddion
Archive
Popular Tags
Plannu Coed Byd-Eang
Bydd cyswllt cymunedol rhyng-gyfandirol uchelgeisiol yn gyfrifol am blannu coed ar yr un pryd yng Nghymru ac yn Affrica.
Mae creu coetir ar y cyd yn Sir Gâr a Chenia yn digwydd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ac ar lethrau Mynydd Cenia ar Ddydd Sul, Tachwedd 25.
Lluniwyd y cyswllt byd-eang hwn gan yr elusen fforest law Gymreig Maint Cymru a Mudiad y Tir Glas, cyswllt fydd yn sicrhau digwyddiad plannu coed gwahanol iawn.
Mae’r digwyddiad hwn yn Sir Gaerfyrddin a fydd yn creu ‘Coedwig Diemwnt’ yn rhan o brosiect ‘Coedwig Jiwbilî’ Ymddiriedolaeth y Coetir, sy’n amcanu at blannu chwe miliwn o goed ar draws y DU yn ystod 2012, i nodi Jiwbilî Diemwnt Ei Mawrhydi’r Frenhines. Bydd y goedwig yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yn un o dair o’u math yn unig yng Nghymru a’r enw fydd ‘Coedwig Nantglir’.
Mae Curadur yr Ardd Fotaneg Genedlaethol, Simon Goodenough, yn annog pobl i ddod i helpu ar ddiwrnod cymunedol y plannu: “Mae mynediad i’r Ardd ar y 25ain AM DDIM i bawb, ac mae’r plannu yn digwydd rhwng 11yb ac 1yp. Mae digon o waith gennym, gan fod 22,000 o goed i’w plannu!”
Gall unrhyw gymuned neu ysgol yng Nghymru sy’n plannu pecyn rhad ac am ddim Ymddiriedolaeth y Coetir y gaeaf hwn gysylltu â Maint Cymru a matsio eu Coed Cymreig goeden â choeden gydag un yn Affrica.
Ychwanegodd Simon fod amrywiaeth gyfoethog o rywogaethau brodorol i’w plannu, gan gynnwys bedw, poplys, gwern, helyg, ynn a derw. Plennir derwen ddathliadol, a godwyd o fesen yn Sandringham, fel cofeb arbennig o Jiwbilî’r Frenhines.
Gofynnir i bawb sydd am helpu wisgo dillad addas i waith yn yr awyr agored, ond i beidio â dod ag offer gyda nhw, gan y darperir y rhain.
Dilynir y Diwrnod Plannu Cymunedol gan wythnos o blannu gan blant ysgolion lleol.
Ymddiriedolaeth y Coetir yw prif elusen cadwraeth coetir yn y DU.
Y mae Maint Cymru yn amcanu at ddod â phawb yng Nghymru at ei gilydd i helpu cynnal ardal o goedwig trofannol maint Cymru fel rhan o ymateb cenedlaethol i newid yn yr hinsawdd.
Y mae Mudiad y Tir Glas yn fudiad amgylcheddol sy’n galluogi cymunedau, yn enwedig menywod, i warchod yr amgylchedd ac i wella bywiolaethau.
Mae’r Ardd ar agor rhwng 10yb a 4.30yp. Am ragor o wybodaeth a newyddion am yr Ardd, neu e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk <mailto:info@gardenofwales.org.uk>, neu ffoniwch 01558 667149.







