Bygi newydd sbon

Bygi newydd sbon

Bydd ymwelwyr yn elwa o ymgyrch codi arian llwyddiannus yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol.

Mae’r rhoddion a gasglwyd gan wirfoddolwyr yn ystod Ionawr rhad ac am ddim yr Ardd wedi galluogi’r atyniad hwn yn Sir Gaerfyrddin i brynu bygi newydd sbon.

Mae Jane Down, Cydlynydd Aelodaeth a Gwirfoddolwyr wrth ei bodd gyda’r newyddion: “Roedd llawer o bobl wedi gweithio’n ddiflino i godi’r arian hwn ac mae’n wych gweld ffrwyth mor dda i’n llafur.”

Chwaraeodd Jane ran allweddol mewn ysgogi aelodau, gwirfoddolwyr a staff i gyfrannu mewn gwahanol ffyrdd tuag at weithgareddau codi arian niferus yr Ardd. Dywedodd: “P’un ai trwy ein raffl, yr arwerthiant planhigion blynyddol, y siop lyfrau
ail-law neu drwy ysgwyd tuniau yn Ionawr, mae i gyd yn waith tîm gyda phawb yn cyfrannu cymaint â phosibl.”

Mae’r Ardd ar agor rhwng 10am-6pm. Os hoffech fwy o wybodaeth, rhowch glic ar www.gardenofwales.org.uk, e-bostiwch
info@gardenofwales.org.uk neu ffoniwch 01558 667149.

Leave a Reply

*