Newyddion
Archive
Popular Tags
Gŵyl Dau-Ddiwrnod yn Torri Record
Mae’r ŵyl fwyaf i berfformwyr sy’n fenywod yng Nghymru yn digwydd yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol ar Awst 26-27.
Mae Gŵyl Fenywod Celtaidd 2012 yn cynnwys mwy na 50 perfformiad dros ddau diwrnod, gan gynnwys yr enwau mwyaf yng ngherddoriaeth Cymru, fel Amy Wadge a Jen Wilson, ynghyd â cherddorion addawol eraill, a barddoniaeth, gweithdai drymio, dawns, cylchoedd canu a cherfluniau sŵn.
Trefnwyd yr ŵyl dau-ddiwrnod, sy’n digwydd ar ŵyl y banc, gan y gyfarwyddwraig creadigol a’r gantores/gyfansoddwraig caneuon sy’n gweithio ar ei liwt ei hunan, Cheryl Beer.
Meddai hi: “Ry’n ni’n edrych ymlaen at yr hyn fydd yn ddiamau yn ddau ddiwrnod arbennig iawn o gerddoriaeth a barddoniaeth. Ry’n ni’n lwcus iawn i sicrhau rhai o gerddorion a beirdd benywaidd amlycaf Cymru, ynghyd â nifer helaeth o gantoresau addawol iawn.”
Bydd yr Ŵyl yn digwydd o 11.00yb hyd 7.00yh o Ddydd Sul Awst 26 i Ddydd Llun Awst 27, ac mae’n sicr o gynnig rhywbeth at ddant pawb.
Dywedodd David Hardy, sy’n gyfrifol am Ddigwyddiadau yn yr Ardd: “Mae Cheryl wedi gweithio’n galed iawn i dynnu’r enwau mawr yma at ei gilydd, ac wedi torri pob record i roi llwyfan i artistiaid sy’n fenywod.”
Mae’r artistiaid yn cynnwys yr enwau canlynol – Heather Jones, Sian James, ‘Bardd mewn Preswyl’ yr Ardd – Mab Jones, Rhian Edwards, Susie Wild, Alison Lenihan, Anne Lister, Jemma Krysa a Chôr Merched Orffiws Abertyleri.
Am fanylion llawn ar Ŵyl Menywod Celtaidd 2012, ewch i http://celticwomenfest.blogspot.co.uk
Mae amodau arferol mynediad i’r Ardd mewn grym. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.gardenofwales.org.uk neu e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk, neu galwch 01558 667149.







