Newyddion
Archive
Popular Tags
Cwrs yn yr Ardd
Mae cwrs Cymraeg 30-wythnos o hyd ar gyfer dysgwyr yn dechrau yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol ddydd Llun Hydref y 1af.
Mae’r cwrs a drefnir gan Brifysgol Abertawe yn cael ei gynnal yn wythnosol ar ddydd Llun, o 10yb-2.30yp a bydd yn costio £100 (neu £55 am gonsesiynau) ac yn cynnwys yr holl ddeunydd dysgu. Mae’n bosibl hefyd ymuno ar y 1af o Hydref am 10 o’r gloch. Os oes gennych ddiddordeb, ffoniwch 01792 602070 neu e-bostiwch welshforadults@swansea.ac.uk
Am fwy o wybodaeth am y cwrs, ffoniwch Pat Taylor ar 01269 860555 neu ebostiwch P.M.Taylor@swansea.ac.uk






