Newyddion
Archive
Popular Tags
Dyna lun!
Mae un o’r atyniadau y tynnir lluniau ynddi fwyaf yn lansio cystadleuaeth fydd yn sicr o ddenu ein ffotograffwyr mwyaf dawnus.
Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn annog dynion a menwyod camera i anfon eu hoff ddelweddau o’r cyrchfan hwn yn Sir Gaerfyrddin, ac ennill y cyfle i’w cynnwys yng nghalendr 2015 yr Ardd.
Mae’r gystadleuaeth wedi’i chynllunio i roi cyfle, mewn blwyddyn, i bob ffotograffydd – boed amatur A phroffesiynol – i gymryd y llun perffaith a chipio lle gwerthfawr yng nghalendr yr Ardd.
“Yr hyn ry’n ni am wneud yw harneisio’r sgil a’r brwdfrydedd hynny, a rhoi at ei gilydd ddelweddau o gasgliad unigryw byd-eang mewn calendr y mae’n rhaid ei brynu.”
Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan e-bostio delweddau jpeg (isafswm 2 megabeit neu o leia 300dpi) i calendar@gardenofwales.org.uk
Ar gyfer termau ac amodau llawn y gystadleuaeth, ewch i www.gardenofwales.org.uk








