Newyddion
Archive
Popular Tags
Yr Ardd yn galw ar bob tad
Bydd cerddoriaeth, hud a cherbydau yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar Sul y Tadau (Dydd Sul Mehefin 17) – a bydd tadau yn cael mynediad AM DDIM i’r Ardd hefyd.
Bydd Clwb Ceir Clasurol Hendy-gwyn yn arddangos hen gerbydau, bydd Jugglestruck yn darparu hud, hwyl a sbri, a modeli balwn tra bydd y ddeuawd lleol Fiddlebox yn chwarae cerddoriaeth i godi hwyliau pawb.
Beth am dretio eich tad (a thad-cu, hefyd!) i ginio ym Mwyty Tymhorau’r Ardd sydd wedi ennill gwobrau a sicrhau ei fod yn manteisio ar bob cyfle i gael hwyl a sbri ar Sul y Tadau.
Os hoffech fwy o wybodaeth amdano neu am unrhyw ddigwyddiad arall yn yr Ardd, rhowch glic ar www.gardenofwales.org.uk neu e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk neu ffoniwch 01558 667149.







