Pwy sydd ar frig y goeden?

Bydd disgyblion o 14 ysgol yn cystadlu yn erbyn ei gilydd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru mewn cystadleuaeth addurno coed Nadolig.

Mae yna nifer o wobrau ar gael yn y gystadleuaeth flynyddol hon sy’n cael ei chynnal o amgylch y Tŷ Gwydr Mawr ddydd Gwener Rhagfyr 2.

Bydd timau o hyd at 30 plentyn o ysgolion cynradd ac uwchradd yn cystadlu i greu’r goeden addurnedig orau o dan y thema Nadolig Gwyllt (felly dim goleuadau!)

Nodau’r digwyddiad yw:

  • arddangos sut y gellir ailddefnyddio ac ailgylchu mewn ffordd arloesol
  • datblygu sgiliau creadigol a pherfformio’n fyw o flaen yr ysgolion eraill
  • cael digon o hwyl a sbri.

 

Bydd yr ysgolion canlynol yn cymryd rhan: Ysgol Gynradd Gorseinon, Abertawe; Ysgol Gyfun Pontarddulais, Abertawe; Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth, Caerfyrddin; Ysgol Gynradd Aberaeron, Ceredigion; Ysgol Gynradd Crynallt, Castell-nedd Port Talbot; Ysgol Gynradd Sant Aidan, Hwlffordd; Maes yr Yrfa, Cefneithin, Caerfyrddin; Ysgol Gynradd Gwenllïan, Cydweli, Sir Gaerfyrddin; Heol Goffa, Llanelli; Garreglwyd, Ysgol y Gwendraeth, Drefach, Sir Gaerfyrddin; Ysgol Gynradd Pontarddulais; Ysgol Gynradd Gorslas, Sir Gaerfyrddin; Ysgol Y Castell, Cydweli; ac Ysgol Llangewydd, Pen-y-bont ar Ogwr.

Bydd y sefydliadau canlynol yn noddi’r gystadleuaeth: Cyngor Sir Caerfyrddin, Cwm Environmental, Dŵr Cymru a Mrs Diane Organ sydd wedi rhoi’r goeden Nadolig i’r plant ei haddurno.

Mae’r gystadleuaeth yn ddigwyddiad partneriaeth rhwng Gyrfaoedd Gorllewin Cymru a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

 

Leave a Reply

*