Newyddion
Archive
Popular Tags
Gaeaf rhadlon!
Beth bynnag fydd y
tywydd yn Ionawr, cewch brofiad o’r Canoldir yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol
Cymru – ynghyd â mynediad RHAD AC AM DDIM am y mis.
Mae yna gyfres o ddigwyddiadau wedi eu trefnu ar gyfer Ionawr er mwyn annog ymwelwyr i ddod i
ymweld â’r Ardd y mae papur newydd The Times wedi’i henwi fel “Gwlad hudol-aeafol orau’r D.U.”.
Gydol y mis, bydd yr uchafbwyntiau’n cynnwys y canlynol: Ffair Hynafolion, Penwythnos Crefftau Pren a Ffair Fwyd ‘Cynhyrchwyr Lleol’ – oll i’w cynnal yn Nhŷ Gwydr godidog yr Arglwydd Foster.
Cynhelir y Ffair Hynafolion ar ddydd Sadwrn a dydd Sul, Ionawr 14-15, a bydd yn ddau ddiwrnod o stondinau hynafolion o ansawdd gyda llestri tsieina, gemwaith a chelfi – a drefnwyd gan Derwen Fairs.
Ar ddydd Sadwrn a dydd Sul, Ionawr 21-22, bydd y Penwythnos Crefftau Pren poblogaidd yn dychwelyd sef digwyddiad ar gyfer gweithwyr pren gan gynnwys arddangosiadau turnio pren, gwneud teganau, cerfio,
intarsia, pyrograffeg, ynghyd â’r crefftwyr rhyngwladol Mark Raby, Mick Hanbury, Bob Neill, Mark Baker, Simon Hope yn dangos eu sgiliau.
Yn ogystal bydd nifer o stondinau masnachu, gan gynnwys Robert Sorby, Trend, Ashley Iles, Timberman, Turners Retreat a llawer mwy.
Ar benwythnos olaf RHAD AC AM DDIM Ionawr (dydd Sadwrn a dydd Sul, Ionawr 28-29), bydd gŵyl o fwyd a diod lleol gyda mwy na 30 stondin yn cynnig y cynhyrchion lleol gorau sydd gan y gorllewin.
Dywedodd y Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu, David Hardy: “Roedd ein mis Ionawr RHAD AC AM DDIM y llynedd mor boblogaidd gan yr ymwelwyr, rydyn ni’n gobeithio – gydag ychydig o ddigwyddiadau ychwanegol – y
byddwn yn denu hyd yn oed mwy o bobl i’r Ardd.”
Hefyd yn yr Ardd yn ystod ein mis Ionawr RHAD AC AM DDIM bydd dau berfformiad o Gyfres Cyngherddau’r Merched Celtaidd a fydd yn cynnwys y gantores, pianyddes, a’r difyrrwraig Amanda Painting (dydd Sul,
Ionawr 8 am 2pm) a’r delynores, cyfansoddwraig caneuon, bardd a’r storiwraig Hazel Saville ar ddydd Sul, Ionawr 15.
Os hoffech fwy o wybodaeth, ffoniwch 01558 667149 neu e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk. Os
hoffech restr lawr o’r hyn sy’n digwydd yr Ardd, rhowch glic ar www.gardenofwales.org.uk.









Such a positive idea. Organisations must currently go that extra mile to encourage interest and support if they are to attract the attention that is fundamental to their continued success.
As a result of your offer of ‘Winter frees’ I am endeavouring to organise a small party of retired/working people to visit on one of the weekends of their choice. Well done – enterprise at its best!
What a marvellous idea. It deserves the support of all.
I shall spread the word.