Pren-campwyr

Pren-campwyr

Bydd turnwyr pren, cerfwyr llwyau caru,a cherflunydd bwyell yn meddiannu’r Tŷ Gwydr Mawr a’r Babell Fawr i roi penwythnos o arddangosiadau yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Sir Gaerfyrddin.

Cynhelir Penwythnos Crefft Pren yr Ardd ar Ddydd Sadwrn a Dydd Sul, Ionawr 18 a 19 – ac mae’r tâl mynediad yn £2 yn unig i oedolion, ac yn rhad ac am ddim i blant.

Dywedodd Les Bryan, y trefnydd (ac arddangoswr), y bydd digonedd o atyniadau yno i ymddiddori ymwelwyr:  “Mae’n fraint mawr cael gweld rhai o gerfwyr a thurnwyr gorau’r DG wrth eu gwaith.  Roedd penwythnos crefft pren y llynedd yn boblogaidd dros ben, a disgwyliwn y digwyddiad eleni i fod yn fwy poblogaidd fyth.  Efallai yr hoffai rhai teuluoedd wybod y bydd yr artist pyrograffeg, Bob Neill, yn arddangos ac yn cynnal gweithdai i blant eleni.”

Bydd tri ffigwr enwog o fyd crefft pren yn arddangos eu crefft – Bob Neill, Simon Hope – yn rhoi dosbarthiadau meistr mewn turnio pren – a Mark Raby yn arddangos lliwio a chynlluniau pren.

Dangosir yr offer gorau a’r diweddaraf gan ‘Timberman’, Ashley Iles, Hamilton Baverstock, ‘Timber’ Martin Pidgen, Robert Sorby ac ‘Isca Timber’.

Hefyd, bydd Cymdeithas Cerfwyr Pren Prydain, Les Bryan o ‘Picus Crafts’, Rhydaman, a’r cerfiwr bwyell Nick Westerman, a chlybiau turnio pren De a Gorllewin Cymru, yn arddangos eu crefft.

Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad hwn a digwyddiadau eraill yn yr Ardd, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk, neu galwch 01558 667149.

2 Responses to “Pren-campwyr”

  1. Tim Pettigrew says:

    Just to say that I enjoyed this event very much. I would like to suggest that you might consider Andrew Hall as one of the demonstrators for a future woodcraft event. His demonstrations of wooden hat and helmet making are just fantastic. See his website at http://www.hallwoodhats.co.uk/

    Again thanks for putting on a great event.

    Tim Pettigrew

  2. Dawn Crisp says:

    So glad you enjoyed the Woodcarving Weekend. Thanks for recommending Andrew Hall, we shall bear him in mind for future events. Look forward to seeing you at the Garden again soon.