Cod Bar Cymru
Dychmygwch y gallwch adnabod unrhyw rywogaeth o blanhigyn yng Nghymru o’r darn lleiaf o ddeilen, hadyn neu ronyn paill; mae hyn yn bosibl gan ddefnyddio cod bar DNA. Mae’r dechneg yn defnyddio darn bach o DNA i weithredu fel dynodwr unigryw ar gyfer y rhywogaeth honno. Y cam cyntaf yw cydosod codau bar cyfeirio ar gyfer y planhigion yr hoffem eu hadnabod.
Dyma enghraifft o god bar DNA y clychlys ymledol (Campanula patula), sbesimen o’r herbariwm a lluniau ohono yn y gwyllt.
Ar ôl gosod y codau bar, gellir cymharu dilyniannau DNA anhysbys â’r rhain er mwyn eu hadnabod. Gwir bwysigrwydd y dechneg yw ei bod yn gallu adnabod rhywogaethau o’r darnau lleiaf, o wahanol gyfnodau bywyd, neu o samplau cymysg. Gellir adnabod rhywogaethau o ronynnau paill, darnau o hadau neu wreiddiau, pren, samplau ymgarthol, cynnwys stumog neu samplau amgylcheddol a gesglir o’r aer, pridd neu dd?r. Mae prosiectau yn awr ar y gweill ar draws y byd i roi codau bar DNA i bopeth byw a sicrhau bod y codau bar sydd ar gael ar-lein fel adnodd byd-eang. Mae yna lawer o gymwysiadau posibl o god bar ar gyfer planhigion, er enghraifft, gallem ni:
- Ddeall pam bod peillwyr mewn perygl. Rydyn ni wedi gweithio gyda Phrifysgol Aberystwyth ar brosiect sy’n gallu olrhain symudiadau peillwyr gan ddefnyddio cod bar DNA i adnabod y gronynnau paill sy’n cael eu cario ar eu cyrff.
- Ddarganfod pa blanhigion y mae gwenyn wedi ymweld â nhw i gynhyrchu mêl. Rydyn ni’n gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd i ddefnyddio’r wybodaeth hon i ddarganfod cyffuriau .
- Ddeall gofynion cynefinoedd anifeiliaid sydd mewn perygl trwy ddarganfod pa blanhigion y maen nhw’n eu bwyta ar wahanol adegau’r flwyddyn trwy edrych ar samplau ymgarthol.
- Ail-lunio tirluniau’r gorffennol o bosib trwy adnabod planhigion o hadau yn y proffil pridd.
- Helpu i ddeall sut mae cymunedau planhigion yn cael eu ffurfio, sy’n hanfodol ar gyfer rhagweld effaith newid hinsawdd.
- Helpu i fonitro effeithiau clwy’r gwair trwy fod yn gallu adnabod yn union pa baill sydd yn yr atmosffer.
- Gynorthwyo ymchwiliadau fforensig trwy fod yn gallu adnabod darnau o blanhigion ar ddillad neu mewn lleoliadau trosedd.
- Wella iechyd anifeiliaid trwy ddadansoddi cyfansoddiad cywir diet da byw ar dir pori.
- Reoli ansawdd cynhyrchion sy’n seiliedig ar blanhigion megis meddyginiaethau llysieuol trwy adnabod elfennau ansoddol.
- Adnabod planhigion sy’n anodd eu hadnabod yn forffolegol.
Rhan hanfodol o sefydlu codau bar DNA yw cael deunydd gwreiddiol a adnabuwyd yn gywir ac mae’n rhaid i bob cod bar gael sbesimen taleb er mwyn gwirio’r hyn ydyw. Rydyn ni’n defnyddio sbesimenau herbariwm Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar gyfer ein codau bar, gan eu bod yn gyfleus i’w defnyddio ac eisoes wedi’u gwirio. Rydyn ni hefyd yn casglu sbesimenau o rywogaethau planhigion ar draws Cymru a’r DU. Cymerir darn mân o sbesimen o’r herbariwm ac echdynnir DNA ohono.
Rydyn ni yna yn mwyhau cod bar y DNA; mae dwy ran i god bar planhigion, y genynnau rbcL a MatK. Cânt eu hadnabod yn fyd-eang fel bod pawb ar draws y byd yn defnyddio’r un dulliau. Ar ôl mwyhau’r codau bar, rydyn ni’n eu trefnu er mwyn darganfod union god DNA y sbesimen ar gyfer dwy ran y cod bar. Mae’r codau bar gorffenedig yn cael eu rhoi ar Gronfa Ddata Barcode of Life ynghyd â gwybodaeth y daleb a sgan o sbesimen yr herbariwm. Ar ôl cwblhau’r prosiect, bydd ymwelwyr i’r wefan yn gallu gweld a lawrlwytho’r holl wybodaeth am y cod bar. Ar gyfer pob rhywogaeth, mae’n rhaid i ni roi cod bar i amryfal sbesimenau er mwyn ein galluogi ni i adnabod gwallau neu amrywiaethau o fewn dilyniannau cod bar rhywogaethau. Byddwn ni’n rhoi cod bar i dri sampl o bob rhywogaeth.
Dyma brosiect ar y cyd rhwng Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru (Dr Natasha de Vere), Amgueddfa Genedlaethol Cymru (Dr Tim Rich) a Phrifysgol Aberystwyth (Yr Athro Mike Wilkinson a Dr Joel Allainguillaume). Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ariannu’r prosiect hwn ynghyd â rhoddion oddi wrth gymwynaswyr preifat. Gallwch chi hefyd gefnogi Cod Bar Cymru trwy noddi cod bar!
Os hoffech wybod mwy am godau bar DNA, cliciwch ar:
International Barcode of Life (iBOL)
Gardd Fotaneg Genedlaethol Caeredin






