Herbariwm
Herbariwm yw casgliad o sbesimenau planhigion sy’n cael eu cadw ac mae’n gofnod parhaol o’r rhywogaethau hynny. Mae pob taflen herbariwm yn nodi enw casglwr y sbesimen, ble daethpwyd o hyd iddo a phryd. Mae Herbaria yn ffynonellau hanfodol o wybodaeth ac rydyn ni’n eu defnyddio wrth ymchwilio tacsonomeg er mwyn cymharu gwahanol rywogaethau. Gallwn ni ddod o hyd i ddosraniadau planhigion y gorffennol trwy weld o ble ddaeth y sbesimenau a gallwn ni dynnu DNA o sbesimenau’r herbariwm i’w defnyddio yng ngwaith ymchwil i god bar DNA a geneteg cadwraeth.
Mae herbariwm cenedlaethol Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd. Yma yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru rydyn ni’n sefydlu herbariwm llai. Mae gennym ni dri chasgliad craidd:
- Herbariwm James Cosmo Melvill a roddwyd yn garedig i’r Ardd gan Ysgol Harrow .
- Sbesimenau taleb ar gyfer ein prosiect Cod Bar Cymru
- Sbesimenau taleb ar gyfer planhigion gwyllt sy’n cael eu tyfu yn yr Ardd a Gwarchodfa Natur Waun Las.
Rydyn ni’n hynod o ddiolchgar am gefnogaeth ariannol y Sefydliad Finnis Scott pan sefydlwyd ein herbariwm.







