Prosiect Planhigion Prin Cymru
Rydyn ni’n gweithio gyda rhai o’r rhywogaethau planhigion sydd mewn perygl yng Nghymru er mwyn sicrhau eu goroesiad hirdymor. Gan weithio yn yr Ardd ac yn y cynefin naturiol, rydyn ni’n ceisio darparu amgylchedd cadwraeth integredig effeithiol ar gyfer y planhigion hyn sydd o dan fygythiad.
Arweinir Prosiect Planhigion Prin Cymru gan Dr Natasha de Vere (Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru) a Dr Tim Rich (Amgueddfa Genedlaethol Cymru) gyda’r gwahanol sefydliadau yn arwain ar amrywiol rywogaethau. Gweithredir prosiectau unigol gyda phartneriaid cadwraeth ar draws y DU.
Gwybodaeth ychwanegol: Prosiect Planhigion Prin Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru
Cerddin gwynion endemig (Sorbus spp.)
Mae gennym ni gasgliad eang o gerddin gwynion ac rydyn ni’n gweithio i warchod rhywogaethau endemig Cymru. Rydyn ni’n cydweithio ar brosiect PhD gydag Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Ymddiriedolaeth Cadwraeth Bywyd Gwyllt Whitley a Phrifysgol Exeter i ymchwilio i wreiddiau a chadwraeth y coed prin yma.
Creigafal y Gogarth (Cotoneaster cambricus)
Rydyn ni’n gweithio gyda Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth, a Sw Caer i ymchwilio i dacsonomeg a statws y planhigyn hwn; dim ond chwe phlanhigyn gwreiddiol sydd ar ôl yn y gwyllt. Rydyn ni wedi defnyddio techneg lledaenu trwy’r aer i gasglu toriadau o blanhigion unigol yn y gwyllt er mwyn creu casgliad yn yr Ardd. Rydyn ni’n ymchwilio i’w tacsonomeg trwy gymharu eu DNA â rhywogaethau perthynol a ddarganfyddir ledled Ewrop.
Clychlys ymledol (Campanula patula)
Rydyn ni wedi archwilio safleoedd hanesyddol y planhigyn hwn sydd mewn perygl argyfyngus a darparu argymhellion ar sut y dylid gwarchod y rhywogaeth hon i Gyngor Cefn Gwlad Cymru. Rydyn ni’n ymchwilio i’w ofynion cynefin a’i geneteg fel ein bod yn gallu ei reoli a’i adfer.
Ysgallen y ddôl (Cirsium dissectum)
Mae’n rhywogaeth allweddol o’r cynefin tir pori sydd o dan fygythiad felly rydyn ni’n ceisio deall sut all ecoleg y planhigyn hwn helpu i’w warchod a sicrhau cadwraeth ei gynefin.






