Eleni mae’r Ardd yn dathlu ei degfed pen-blwydd a gyda diolch i’n cefnogwyr, staff, gwirfoddolwyr ac aelodau, rydyn ni wedi llwyddo i greu un o’r mynedfeydd mwyaf cyffrous i fyd bywyd planhigion yn y DU.

Sut bynnag, mae’n hadnoddau ni’n parhau yn gyfyng ac rydyn ni’n derbyn dim ond y drydedd ran o’r cyllid sydd ei angen arnom oddi wrth ffynonellau’r llywodraeth, rhaid i’r gweddill gael ei gynhyrchu trwy’n gweithgareddau ni’n hunain.

Yn y cyfnod anodd hwn, nid yw’r darlun hwn yn debygol o newid.

Un ffordd y gallwch chi ein helpu yw trwy gyfrannu at yr Ardd yn eich ewyllys.

Mae cymynrodd yn un o’r rhoddion mwyaf personol y gall rhywun ei adael ac mae’n ddigon teg fod ein meddyliau yn mynd at y rhai sydd agosaf atom yn gyntaf. Sut bynnag, mae llawer o bobol yn dewis gadael rhywbeth at achos neu sefydliad sydd ag arwyddocâd arbennig iddynt.

Os hoffech chi gefnogi’r Ardd yn y modd hwn, neu os hoffech chi gael mwy o fanylion yn unig, cysylltwch â ni yn y cyfeiriad isod neu ffoniwch 01558 667118 neu e-bostiwch 

membership@gardenofwales.org.uk

Nid oes rhaid dweud y bydd unrhyw beth a drafodir yn cael ei drin yn gwbl gyfrinachol.

 Rob Jolliffe Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr