Adaryddion yr Ardd

Adaryddion yr Ardd

Efallai mai tywydd delfrydol i hwyaid sydd gennym yn awr, ond mae adarwyr yn gobeithio cael cip ar amrediad ehangach o adar ar ddiwrnod arbennig yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Bydd Daniel Jenkins-Jones, o’r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar yng Nghymru, yn arwain dwy daith gerdded ddwyieithog gwylio adar o amgylch yr Ardd ar Ddydd […]

No Comments
Bathodyn er Anrhydedd

Bathodyn er Anrhydedd

Dyfarnwyd statws Bathodyn Atyniad Blue Peter i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Golyga’r anrhydedd hwn bod yr Ardd yn ymuno ag atyniadau eraill sydd wedi ennill y wobr hon, ac yn rhoi’r hawl i bawb sy’n ddeiliaid bathodyn i gael mynediad am ddim i’r Ardd. Meddai Pennaeth Marchnata’r Ardd, David Hardy:  “Mae Bathodyn Blue Peter wedi […]

No Comments
Nefoedd Wen! Yr Ardd yn cael statws arbennig

Nefoedd Wen! Yr Ardd yn cael statws arbennig

Dyfarnwyd satws Lleoliad Ddarganfod Ffurfafen Dywyll i Ardd Fotaneg Genedlaethol – yr ardd fotaneg gyntaf ym Mhrydain i ennill yr anrhydedd hwn. Mae hwn yn gydnabyddiaeth swyddogol gan bartneriaeth Ddarganfod y Ffurfafen Dywyll o ansawdd y ffurfafen y nos dros yr atyniad yn Llanarthne. Mae’r Ardd yn un o 25 o safleoedd swyddogol ‘ffurfafen dywyll’ […]

No Comments
Bwyd o Ansawdd ar y Fwydlen

Bwyd o Ansawdd ar y Fwydlen

Cynhyrchwyr bwyd lleol yw sêr Ffair Fwyd mis Ionawr Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru (Ionawr 25-26), a byddan nhw’n darparu gwledd gyda blas rhyngwladol. Yn ymyl gwerthwyr bwritos, baklava, tapas, melysyn Twrci, siocled Gwlad Belg a chorizo, bydd arbenigwyr mewn bara lawr, pice ar y ma’n, mêl lleol, caws Dyffryn Cothi, wyn Cwm Gwaun, a chwrw […]

No Comments
Clasur o Benwythnos yn yr Ardd

Clasur o Benwythnos yn yr Ardd

Bydd Ffair Henebion yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yn canolbwyntio ar grochenwaith, peintiadau a brethynnau Cymreig ar benwythnos Ionawr 11 a 12. Mae’r Ardd yn lleoliad syfrdanol ac eiconig ar gyfer y digwyddiad poblogaidd hwn, sydd yn cynnwys mwy na 50 o stondinau. Bydd amrwyiaeth eang iawn o stondinau o dan fwa rhyfeddol Y Tŷ Gwydr […]

2 Comments
Yr Anrheg Berffaith

Yr Anrheg Berffaith

Dychmygwch anrheg Nadolig, penblwydd neu benblwydd priodas y gallwch ei defnyddio bob diwrnod o’r flwyddyn. Beth allai fod yn well ar gyfer y ffrind, perthynas neu aelod o’r teulu anodd-i’w-brynu-iddo hwnnw nac anrheg anarferol, hyfryd, sy’n newid yn barhaus, na fydd e byth yn ei hanghofio? Felly, pam na wnewch chi aelodaeth o Ardd Fotaneg […]

No Comments
Amrywiaeth yn rhoi blas ar y Penwythnos Afalau

Amrywiaeth yn rhoi blas ar y Penwythnos Afalau

Mae trefnwyr y Penwythnos Afalau yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn addo cnwd toreithiog arall o hoff ffrwyth pawb. Ar Hydref 19-20 bydd digonedd o ‘fale i’w blasu a’u prynu yn y digwyddiad poblogaidd hwn, gydag arddangosiad syfrdanol o rhyw 400 o amrywiaethau yn graidd i’r digwyddiad dau ddiwrnod. Ynghyd â rhengoedd o ffrwythau rhyfeddol, […]

No Comments