Arddangosfa Cennin Pedr

Arddangosfa Cennin Pedr

Trawsnewid y Narcissus Mae celf y Genhinen Bedr yn bwnc amserol ar gyfer yr arddangosfa wanwyn yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, sy’n cydredeg â’r Ŵyl Gennin Pedr sydd yn cael ei chynnal yno am fis cyfan. Mae myfyrwyr ar gwrs Cynllunio Patrwm Arwynebedd ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe wedi bod yn gweithio ar y sioe – […]

No Comments
Adaryddion yr Ardd

Adaryddion yr Ardd

Efallai mai tywydd delfrydol i hwyaid sydd gennym yn awr, ond mae adarwyr yn gobeithio cael cip ar amrediad ehangach o adar ar ddiwrnod arbennig yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Bydd Daniel Jenkins-Jones, o’r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar yng Nghymru, yn arwain dwy daith gerdded ddwyieithog gwylio adar o amgylch yr Ardd ar Ddydd […]

No Comments
Hadau’r Sul yn gwreiddio

Hadau’r Sul yn gwreiddio

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn cynnal ei diwrnod cymunedol cyfnewid hadau cyntaf ar Ddydd Sul, Chwefror 23. Mae trefnwyr ‘Hadau’r Sul’ yn gobeithio dod â chynilwyr hadau, selogion tyfu llysiau a pherlysiau adref, garddwyr lleol a chymunedol, a pherchnogion lleiniau, at ei gilydd, ynghyd â mudiadau sy’n ymgyrchu dros gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy a […]

No Comments
Bathodyn er Anrhydedd

Bathodyn er Anrhydedd

Dyfarnwyd statws Bathodyn Atyniad Blue Peter i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Golyga’r anrhydedd hwn bod yr Ardd yn ymuno ag atyniadau eraill sydd wedi ennill y wobr hon, ac yn rhoi’r hawl i bawb sy’n ddeiliaid bathodyn i gael mynediad am ddim i’r Ardd. Meddai Pennaeth Marchnata’r Ardd, David Hardy:  “Mae Bathodyn Blue Peter wedi […]

No Comments
Planhigion yn Ysbrydoli Sioe Glytwaith

Planhigion yn Ysbrydoli Sioe Glytwaith

Bywyd, cariad, coffadwriaeth, bwyd a moddion, yw rhai yn unig o themâu arddangosfa newydd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Mae Prosiect Dôl Glytwaith y DG, a ddisgrifiwyd ‘y Tapestri Bayeux ar gyfer ein hoes ni’, yn dathlu cyfoeth anhygoel Prydain o flodau gwylltion trwy gyfrwng gwaith llaw. Syniad yr elusen Bywyd Planhigion yw’r Ddôl Glytwaith, […]

2 Comments
Wythnos y Lili Wen Fach

Wythnos y Lili Wen Fach

Dewch i ddarganfod ein milltir o lilis bach gwynion, a’n helpu ni i ddathlu’r Lili Wen Fach yn ystod yr wythnos,  Ionawr 25 – Chwefror 2. Codwch daflen pan fyddwch yn ymweld â’r Ardd a dilynwch Lwybr y Lili Wen Fach, a byddwch yn barod am ein gweithgareddau origami, addurno cacennau a pheintio i’r teulu.  […]

No Comments
Nefoedd Wen! Yr Ardd yn cael statws arbennig

Nefoedd Wen! Yr Ardd yn cael statws arbennig

Dyfarnwyd satws Lleoliad Ddarganfod Ffurfafen Dywyll i Ardd Fotaneg Genedlaethol – yr ardd fotaneg gyntaf ym Mhrydain i ennill yr anrhydedd hwn. Mae hwn yn gydnabyddiaeth swyddogol gan bartneriaeth Ddarganfod y Ffurfafen Dywyll o ansawdd y ffurfafen y nos dros yr atyniad yn Llanarthne. Mae’r Ardd yn un o 25 o safleoedd swyddogol ‘ffurfafen dywyll’ […]

No Comments
Pren-campwyr

Pren-campwyr

Bydd turnwyr pren, cerfwyr llwyau caru,a cherflunydd bwyell yn meddiannu’r Tŷ Gwydr Mawr a’r Babell Fawr i roi penwythnos o arddangosiadau yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Sir Gaerfyrddin. Cynhelir Penwythnos Crefft Pren yr Ardd ar Ddydd Sadwrn a Dydd Sul, Ionawr 18 a 19 – ac mae’r tâl mynediad yn £2 yn unig i […]

2 Comments
Clasur o Benwythnos yn yr Ardd

Clasur o Benwythnos yn yr Ardd

Bydd Ffair Henebion yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yn canolbwyntio ar grochenwaith, peintiadau a brethynnau Cymreig ar benwythnos Ionawr 11 a 12. Mae’r Ardd yn lleoliad syfrdanol ac eiconig ar gyfer y digwyddiad poblogaidd hwn, sydd yn cynnwys mwy na 50 o stondinau. Bydd amrwyiaeth eang iawn o stondinau o dan fwa rhyfeddol Y Tŷ Gwydr […]

2 Comments