Sut mae cyrraedd yno
Cludiant Cyhoeddus
Bydd ymwelwyr i’r Ardd sy’n defnyddio gwasanaethau’r bysiau lleol – gweler isod – yn gymwys i dderbyn mynediad am hanner pris wrth gyflwyno eu tocyn bws. Y gwasanaeth rheolaidd o Gaerfyrddin ydyw bws 166 sy’n cysylltu Gorsaf Drenau Caerfyrddin, Cross Hands, Pontyberem a sawl lle arall i’r Gerddi Botaneg Cenedlaethol ac mae’n gollwng y teithwyr o fewn maes parcio’r Ardd. Amserlen bws 166. Ar y llaw arall, gallai Traveline eich helpu chi gyda’ch ymholiadau yngl?n â chludiant cyhoeddus. Fe allwch chi ymweld â’u gwefan , eu ffonio ar 0871 200 22 33, neu dectsio 84268.
Teithiau
Mae nifer o gwmnïau yn cynnig teithiau wedi’u trefnu i’r Ardd ac atyniadau eraill yng ngorllewin Cymru, megis: Darganfod Cymru yn rhwydd ar daith ymweld am ddiwrnod. Mae’r teithiau hyn yn gadael yn ddyddiol o ganol dinas Caerdydd – drwy’r flwyddyn. Am wybodaeth bellach cysylltwch: +44 (0) 2920 227 227 neu ewch i’n gwefan yn www.seewales.com Archwiliwch dir hynafol Cymru a chwrdd â’u phobol ardderchog, ar daith diwrnod yng ngofal tywysydd gyda wherewhenwales. Ewch i www.wherewhenwales.com
Gyrru i’r Ardd Fotaneg Genedlaethol
Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru wedi’i lleoli 10 munud o’r M4 a ¼ milltir o’r A48 yn Sir Gaerfyrddin, De Orllewin Cymru, hanner ffordd rhwng Cross Hands a Chaerfyrddin. Ar gyfer defnyddwyr Satnav ein cod post yw SA32 8HN.
| Amserau Teithiau | |
| Canolbarth Lloegr | 3 awr |
| Bryste | 1 ½ awr |
| Caerdydd | 55 munud |
| Abertawe | 30 munud |
Teithiau Car
Bydd y rhan fwyaf o bobol yn gyrru eu hunain, ond mae yna ffordd amgen. Mae Sswitch2share.com yn wasanaeth am ddim sy’n cysylltu gyrwyr a theithwyr i rannu teithiau mewn ceir. Fe allwch chi rannu car i fynd i’r gwaith, i’r siopau neu ar unrhyw daith hamdden yn Ne Orllewin Cymru a thu hwnt. Ewch i wefan www.swwitch2share.com Gyrru o AbertaweCymerwch yr M4 i’r gorllewin tuag at Caerfyrddin a gwasanaethau Pont Abraham. Wrth y gwasanaethau cymerwch yr A48 tuag at Gaerfyrddin. Cymerwch y trydydd allanfa ar gylchfan Crosshands, gan aros ar yr A48. Ar ôl rhyw 4 milltir mae yna slip ffordd ag arwydd B4310 i Nantgaredig. Mae yno arwydd hamdden brown ar gyfer Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Dilynwch y cyfarwyddiadau i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Gyrru o Gaerfyrddin
Cymerwch yr A48 i gyfeiriad Abertawe ac yna’r M4. Ar ôl rhyw 8 milltir, cymerwch y slipffordd ag arni’r arwydd B4310 (Nantgaredig). Mae yno arwydd hamdden brown ar gyfer Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Dilynwch y cyfarwyddiadau i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Lawr lwythwch fersiwn y gellir ei argraffu (ffeil PDF)
Seiclo
Gall unrhyw un sy’n seiclo i’r Ardd fynd i mewn am hanner pris, ar ôl trosglwyddo eu clipiau seiclo a’u helmedau i’w cadw’n ddiogel. Mae dolen Caerfyrddin-Llanelli o daith 47 Rhwydwaith Cenedlaethol Seiclo, yn mynd heibio mynedfa Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Cyfeirir at y daith fel Y Llwybr Celtaidd ac fe allwch ddod i wybod mwy amdani trwy glicio yma. Os ydych chi’n teimlo nad oes gennych ddigon o amser i dreulio diwrnod cyfan yn yr Ardd Fotaneg, mae Caffi’r Porthdy(ac nid oes angen tâl mynediad i ddefnyddio’r caffi) yn cynnig lluniaeth hyfryd.
Tacsis
| Rhif Ffôn | Prisiau i Orsaf Drenau Caerfyrddin | Prisiau i Orsaf Drenau Llandeilo | Fares to Swansea Train Station | Fares to Neath Train Station | |
| Eifion’s Taxis (Cross Hands) | 01269 831999 | £16 | £17 | £30 | £35 |
| Cross Taxis (Cross Hands) | 01269 841200 | £12-£15 | £20 | £35 | £35-£40 |
| Chris Cars (Caerfyrddin) | 01267 234438 | £18 | £22/£24 | £35 if booked through us, £50 if not |






